"Diwrnod diflas a glawog arall," ochneidiodd Mr Davies Jones wrth ddarllen ei bapur. Hen ddyn diflas oedd Mr Davies Jones, oherwydd hynny roedd pawb yn ei alw yn 'Mr DJ. Diflas.' Roedd o bob amser yn gwylio'r teledu a bwyta pop-corn ac yn yfed diod pop a doedd o BYTH yn gwneud dim byd ar ei ben ei hun. Roedd o yn dweud wrth ei wraig am wneud bob dim yn ei le!
Un dydd Sadwrn arferol, diflas, anniddorol arall, penderfynodd Mr Davies Jones fynd i'r dref i brynu ei docyn loteri oherwydd bod ei wraig wedi mynd i siopio i Tesco. Roedd pawb wedi synnu ei weld o yn mynd ar ei feic tua'r dref oherwydd fel arfer, yn t欧 yn darllen ei bapur y byddai bob wythnos. Ond y dydd Sadwrn yma, roedd o am fentro i wneud rhywbeth gwahanol ... Mentrodd i'r siop yn nerfus i brynu ei docyn. Rhoddodd arian i'r siopwraig a gwthiodd y darn papur bach i waelod ei boced. Yna trodd ar ei sawdl a chychwyn yn 么l ar ei feic ... Ar 么l cyrraedd adref o'r dref eisteddodd Mr Davies Jones yn ei gadair o flaen y teledu. Roedd o yn gafael yn dynn yn y tocyn loteri. O'r diwedd ymddangosodd y rhaglen deledu ac yna daeth y rhifau ar y sgr卯n, y rhifau oedd 6, 29, 13, 11, 42, 18. Dyna'r UNION rifau yr oedd o wedi eu dewis! Eisteddodd Mr Davies Jones yn hollol lonydd am o leiaf pum munud. Pan ddaeth ei wraig a'i blant i fewn, gofynnodd Sam, ei fab hynaf:
"Dad, beth sy'n bod?"
"Dwi wedi ennill y loteri, dwi wedi ennill, HWRE, HWRE."
Neidiodd ar ei draed, rhedodd mor gyflym ag y gallai ar hyd y stryd nes oedd pawb yn y pentref yn ei glywed. Am y tro cyntaf ers tro, gwelodd pawb Mr Davies Jones yn gwenu!
|