Roedd y diwrnod mawr wedi cyrraedd. Becca a Tomos yn priodi. Roeddent wedi bod efo'i gilydd am flynyddoedd. Ar 20fed o Awst, gofynnodd Tomos y cwestiwn mawr "A wnei di fy mhriodi?" Roedd Becca wedi bod yn cr茂o gymaint, am ei bod mor hapus, a buasai wedi bod yn bosibl iddi wneud llyn gyda'r holl ddagrau.
Ar Dachwedd 17, cyrhaeddodd y diwrnod mawr. Diwrnod y Briodas! Doedd Becca ddim yn gallu coelio'i llygaid. Roedd hi, Becca Griffith, yn cerdded braich ym mraich efo'i thad, sef Edward Griffith, lawr yr eil. Gwisgai ffrog wen fel y cymylau, a'i gwallt yn ddu fel y fr芒n. Disgleiriai ei llygaid fel y s锚r.
Safai Tomos yn w锚n o glust i glust wrth weld Becca yn cerdded lawr yr eil. Roedd Tomos yn smart iawn yn ei siwt ddu a'r wasgod las. Roedd yr amser wedi cyrraedd i Tomos ofyn i'w was priodas am y fodrwy i roi ar fys Becca. O NA! Roedd Geraint wedi anghofio'r fodrwy adref, a oedd 10 milltir i ffwrdd. Roedd pawb yn y gynulleidfa wedi dychryn. Ond yna, cofiodd Tomos ei fod wedi rhoi'r fodrwy yn ei boced. Estynnodd y fodrwy a rhoddodd ar fys Becca. Dywedodd y Gweinidog, "Rydych nawr yn 诺r a gwraig". Cusannodd y ddau am hir iawn. Yna daeth yr amser i fynd i'r parti i ddathlu. Roedd Dewi Pws yn canu yn y parti, ac yn dweud ambell i j么c wrth gwrs! Erbyn diwedd y dydd roedd pawb wedi blino. Wel, pawb heblaw am Becca a Tomos a oedd wedi cael diwrnod gwerth chweil ar ddydd eu priodas! Cododd Becca a Tomos braidd yn hwyr er mwyn mynd i ddal yr awyren, ac felly ni gyrhaeddont y maes awyr mewn pryd. Ond cafodd y ddau fynd ar yr awyren nesaf a oedd yn mynd i Hawaii. Cyrhaeddodd y ddau yn n么l yng Nghymru'n saff, ac roedd y ddau yn ystyried dydd eu priodas fel y diwrnod gorau o'u bywydau.
|