Byrddio mynydd (gan Briony)
Mae yna lawer o wahanol fyrddau mynydd. Mae rhai yn gwneud neidiau a triciau, rhai yn mynd i lawr y mynydd a rhai sy'n gwneud y ddau.
Mae yna lawer o lefydd lle rydach chi'n gallu dysgu sut i fyrddio mynydd. Er, os ydych eisiau bwrdd ac adnoddau da, mae'n mynd i fod yn gostus.
Mae'n hwyl ond mae'n rhaid i chi gael yr adnoddau iawn. Mae yna lawer o gystadlaethau i blant ac oedolion ac mae'n rhaid i chi fod yn barod rhag ofn i chi gael ddamwain!
Syrffio barcud (gan Sarah)
Mae syrffio barcud yn c诺l ar y funud. Pencampwr y byd yw Aaron Hodlow ac roedd o ddim ond yn 15 pan gymerodd y teitl!
Mae yna lawer o fathau o syrffio barcud - efo bwrdd syrffio normal, efo caiac neu efo bwrdd efo strapiau.
Mae adnoddau syrffio barcud hefyd yn gostus iawn. I brynu barcud 'Airbrush' 11m mae'n costio 拢600 a rhyw 拢400 am fwrdd.
Hefyd mae'n rhaid cael adnoddau i'ch amddiffyn rhag brifo, fel het, siaced bywyd, harnes a mwy.
Mae syrffio barcud yn dda iawn wrth ddysgu neidiau. Neidiau da i ddechrau yw y 'Backloop'. Dwi'n hoffi'r 'Handle Pass' hefyd ond mae'r rhain yn anodd iawn achos mae'n rhaid gwneud fflip cefn.
Mae syrffio barcud yn gr锚t fel chwaraeon eithafol - tr茂wch o!""
Syrffio (gan Briony)
I syrffio, mae'n rhaid i chi gael bwrdd, wacs i'r bwrdd a hefyd 'leash'. Mae syrffio yn hwyl ond hefyd yn gostus achos mae bwrdd newydd i ddechreuwyr yn costio rhyw 拢200!
Mae'r rhan fwyaf o fyrddau yn cael eu gwneud allan o 'fibreglass'. Mae ganddynt dri 'fin' a padiau grip lle 'da chi'n sefyll. Mae'n bwysig cael 'leash' sydd yn gyfforddus ac yn ffitio'n iawn.
Mae yna ysgolion syrffio ymhob man sydd yn dysgu'r 'basics'. Mae syrffio yn hwyl, felly pam na wnewch chi fod yn fentrus a chael tro?
Caiacio (gan Sarah)
Mae 'na lawer o fathau o gaiacio: caiacio afon a m么r, caiacio 'rapids' a caiacio dros bellter. Mae'n rhaid i chi gael caiac da efo sedd gyfforddus, 'spray dec' a rhwyfau ac mae'n rhaid gwneud yn si诺r bod y caiac yn ffitio'n iawn.
Mae caiacio yn hwyl gr锚t ond mae hefyd yn beryglus; rhaid bod yn barod neu fe allwch gael damwain.