Hanes Bro Dinefwr
topParhad o daith hanesyddol o amgylch Bro Dinefwr.
Cestyll y fro
Yn yr ardal gyfagos, o gylch Llandeilo, mae'r cestyll hynafol y mae'r ardal yn enwog amdanynt sef Castell Dinefwr, Castell Carreg Cennen a Chastell Dryslwyn. Dyma rai o gestyll Cymreig y Deheubarth. Saif y tri ohonynt o fewn ychydig filltiroedd i'w gilydd.
Saif Castell Dinefwr tua milltir i'r gorllewin o Landeilo. Mae i'r castell hwn le pwysig yn hanes Cymru gan mai hwn oedd castell arweinwyr Cymreig y Deheubarth. Mae'r enw Dinefwr yn ymddangos droeon yn y cyfreithiau Cymreig sy'n awgrymu ei bwysigrwydd.
Mae'n debyg mai Rhodri Fawr, brenin Cymru yn y 9fed ganrif, a adeiladodd y castell gwreiddiol. Ganrif yn ddiweddarach, yn 950 O.C, dyma lle roedd Hywel Dda yn rheoli rhan fawr o Gymru gan gynnwys y Deheubarth. Dinefwr oedd ei brif lys.
Yn 1163 yr Arglwydd Rhys oedd yn meddu'r castell a thra roedd ef yn rheoli roedd y Deheubarth mewn cyfnod o heddwch. Ond wedi ei farwolaeth bu cryn ddadlau ymysg ei feibion am yr olyniaeth. Arweiniodd hyn at gyfnod cythryblus yn hanes y castell. Yn yr un cyfnod, diwedd y 12fed ganrif a dechrau'r 13eg ganrif, bu'r castell yng nghanol y brwydro rhwng y Cymry a'r Saeson.
Yn niwedd y 13eg llwyddodd Edward 1 i feddiannu Castell Dinefwr. Wedi hynny arhosodd y castell yn nwylo'r Saeson am gyfnod hir. Ond yng nghyfnod Harri Tudur derbyniodd Rhys ap Thomas gastell Dinefwr wedi iddo godi byddin mewn cefnogaeth i Harri.
Castell Dryslwyn
I'r de orllewin o Gastell Dinefwr mae Castell Dryslwyn. Mae hwn yn safle archeolegol bwysig. Mae'n debyg i'r gaer wreiddiol gael ei hadeiladu yn ystod yr Oes Haearn. Wedyn adeiladwyd y castell brodorol Cymreig a welir heddiw ar y safle. Adeiladwyd hwn gan Dywysogion Cymreig y Deheubarth.
Fel y ddau gastell arall cyfagos mae i Gastell Dryslwyn hefyd ran bwysig yn hanes Cymru a hynny oherwydd y gwrthryfel a ddigwyddodd yno. Yn 1287 gwrthryfelodd y brenin Rhys ap Maredudd yn erbyn Edward I. Anfonodd Edward lu i'r castell a rhoi gwarchae arno. Llwyddodd Edward i feddiannu'r castell. Wedi hyn parhaodd y castell ym meddiant y frenhiniaeth Seisnig hyd nes y gadawsant y castell yn y 15fed ganrif.
Castell Carreg Cennen
Tua'r de mae Castell Carreg Cennen. Mae mewn lleoliad arbennig ac oddi yma ceir golygfa wych o'r Mynydd Du a'r tirlun o gwmpas. Mae tystiolaeth yn dangos bod y Rhufeiniaid wedi bod yn trigo yma ar un cyfnod a darganfuwyd ceiniogau Rhufeinig a sgerbydau ar y safle.
Er mai'r tywysogion Cymreig a adeiladodd y castell gwreiddiol mae'r castell presennol yn dyddio'n 么l i gyfnod Edward I. Er bod wyneb y castell yn dal i sefyll yn gadarn heddiw mae'r tu mewn wedi ei ddifrodi i raddau helaeth wedi'r ymdrech i'w ddymchwel yn 1462 ar 么l Rhyfel y Rhosynnau.
Mae hanes y castell yn un diddorol. Mae cyfeiriadau chwedlonol yn gosod y gaer wreiddiol yn yr Oesoedd Tywyll ac yn honni i Urien Rheged ei feddu ar un cyfnod, a'i fab Owain wedyn yng nghyfnod y Brenin Arthur. Mae chwedlau'n honni bod rhyfelwr, efallai un o farchogion Arthur neu ef ei hun, yn cysgu y tu 么l i'r castell ac yn disgwyl am alwad gan y Cymry.
Mae'n debyg mai'r Arglwydd Rhys, Tywysog y Deheubarth, a adeiladodd y castell cyntaf ar y safle a hynny yn niwedd y 12fed ganrif. Yn ddiweddarach etifeddodd ei olynydd, Rhys Fychan, y castell. Ond bradychwyd ef gan ei fam a roddodd y castell i'r Saeson. Yn 1284 llwyddodd Rhys i feddiannu'r castell unwaith eto. Ond cipiodd ei ewythr, Maredydd ap Rhys Gryg y castell oddi wrtho. Yna yn 1277 fe'i meddiannwyd gan Edward I.
Yn y 13eg ganrif dymchwelwyd y safle Gymreig wreiddiol ac yn ei le gosodwyd y strwythur y gwelwn ar y safle heddiw. Daliodd Owain Glyndwr y castell tua 1403 yn ystod ei wrthryfel a difrodwyd y castell yn sylweddol.
Wedi Rhyfel y Rhosynnau roedd y frenhiniaeth yn ystyried y castell yn ormod o fygythiad a cafodd ei ddymchwel. Er gwaethaf ei gyflwr bu nifer o deuluoedd ac arweinwyr blaengar yn berchen ar y castell ei hun. Maent yn cynnwys Syr Rhys ap Thomas a'r Vaughaniaid o'r Gelli Aur a Ieirll Cawdor a lwyddodd i ddal eu gafael ar y castell hyd yr 20fed ganrif.
Parciau gwledig Dinefwr
Yn ogystal 芒 chestyll enwog mae yn Ninefwr hefyd nifer o barciau gwledig enwog. Yn ymyl castell Dinefwr mae Parc Dinefwr a th欧 Newton. Yma mae ceirw a gwartheg Gwynion prin yn ogystal 芒 gardd Eidalaidd Fictoraidd gyda ffynnon a th欧 haf. Datblygodd y parc yn y blynyddoedd wedi 1775 er mwyn cynnwys y t欧, y gerddi a'r goedwig ar un safle. Mae llwybrau drwy'r parc yn arwain at y castell lle ceir golygfeydd gwych o ddyffryn Tywi.
Parc gwledig arall ym mro'r Lloffwr yw Parc Gwledig Gelli Aur. Yma ceir erwau o dir coediog a phlasdy mawreddog a oedd unwaith yn gartref i'r Vaughaniaid a theulu'r Cawdor. Mae yma ardd goed Fictoraidd hefyd a blannwyd gan yr Arglwydd Cawdor yn ogystal 芒 pharc ceirw a llwybrau natur.
Gardd Fotaneg
Datblygiad pwysig yn yr ardal yn ystod y cyfnod diweddar yw Gardd Fotaneg Cymru yn Llanarthne. Dyma'r ardd fotaneg genedlaethol cyntaf i gael ei greu yn Ewrop. Bwriad yr ardd yw diogelu a chynnal planhigion.
Yn Llanarthne hefyd mae T诺r Paxton. Adeilad Gothig hynod a neuadd wledda yw'r t诺r a godwyd ar stad Middleton ym 1808-1815. Ceir oddi yma olygfeydd ysblennydd o stad Middleton a Dyffryn Tywi.