|
|
Prisiau tai yn dychryn y Gwyddelod
Diarmuid Johnson yn sgrifennu o Galway Dydd Mawrth, Gorffennaf 4, 2000
|
Mae'n argyfwng tai yn Iwerddon. Ers 1998 mae cyfartaledd y prisiau wedi codi £40,000, sef 25% y flwyddyn - o tua £90,000 i dros £175,000 yn Nulyn ac o tua £90,000 i rhyw £130,000 yn Galway, Corc a Limeric. Un ochr i'r argyfwng yw'r prisiau uchel. Prinder yw'r llall. Erbyn hyn mae 45,000 o bobl ar restrau aros yr awdurdodau lleol. Bydd angen 54,000 ty bob blwyddyn tan 2005. Ceisio rheoli pethau Yn sgîl y datblygiadau difrifol hyn, mae cyd-lywodraeth Fianna Fail a'r Progressive Democrats newydd gyhoeddi 'Action on Housing', dogfen i geisio rheoli'r sefyllfa. Mae 'Action on Housing' wedi'i seilio i raddau helaeth ar drydydd adroddiad am y farchnad dai a gomisiynwyd gan y llywodraeth gan arbenigwr, y Dr Peter Bacon. Prif nod y llywodraeth ers tro yw ei gwneud yn haws i'r sawl sy'n prynu ty am y tro cyntaf. I'r perwyl hwn mae 'Action on Housing' yn dileu treth stamp ar dai gwerth hyd at £150,000. Datblygwyr yn farus Ond gwreiddyn y drwg yw ariangarwch y datblygwyr, yr adeiladwyr a'r buddsoddwyr preifat. O'r herwydd, gosodwyd ar eiddo'r buddsoddwr, dreth o 2% y flwyddyn o werth pob ty neu fflat a hynny am dair blynedd. Bu datblygwyr yn prynu tir ac yn aros i'r farchnad wella cyn bwrw 'mlaen â'r gwaith adeiladu. Bydd hyn yn cael ei gosbi: £3,000 y flwyddyn am bob safle ty. Yn ogystal, mae treth stamp o 9% yn cael ei godi oddi wrth fuddsoddwyr sy'n prynu tai i'w gosod neu i'w hailwerthu. Ar ben hyn oll mae'r Strategic Development Zones (SDZ), sef tiroedd ar gyrion y trefi ar gyfer adeiladu. Y llywodraeth fydd yn penderfynu pa diroedd a ddewisir. Mae hyn yn ehangu grym Dail Eireann yn gymdeithasol achos hyd yn hyn dim ond tir diwydiannol a ystyriwyd yn SDZ. Argyfwng arbennig pobol sy'n talu rhent Mae'r gwrthbleidiau yn amau a fydd 'Action on Housing' yn dal yr hwch. Mae'r Blaid Lafur eisiau cenedlaetholi'r busnes codi tai. Dywed Fine Gael fod y peth yn dod i'r berw ers tro ond i'r llywodraeth naill ai ei anwybyddu neu fethu a'i ddirnad. Er mai peth cymharol ddiweddar yw'r prisiau uchel hyn bu'r farchnad rentu a llety yn draed moch ers ugain mlynedd. Talu'n ddrud am lety gwael yw rhan y sawl sydd heb yr arian i gael eu haelwyd eu hunain. Mae pobl sy'n rhentu yn aflonyddu - a phleidleisio yn erbyn y llywodraeth a wnaiff llawer ohonyn nhw os na ddaw haul ar fryn yn fuan.
|
|