|
|
Cyhuddiad o dwyll ac ystryw yn Iwerddon
Pleidleiswyr yn gynddeiriog! Dydd Mercher, Gorffennaf 26, 2000
|
gan Diarmuid Johnson yn sgrifennu o Iwerddon Ers tri mis mae pleidleiswyr Iwerddon yn gynddeiriog. Mae pethau cas yn dod i'r amlwg. Yn ystod yr wythdegau bu i sawl gwleidydd blaenllaw gamddefnyddio ei awdurdod er mwyn troi môr o arian i 'w melin eu hunain. Twyll ac ystryw, celwydd ac anwiredd: yn sgil darganfodiadau'r llysoedd mae'r bobl wedi eu syfrdanu. Dyma gip ar yr hanes: Yr oedd economi Dulyn ar drai ddechrau'r wythdegau. Allfudo ar ei anterth. Y wlad yn swrth. Ond y tu ôl i'r tlodi yr oedd Ray Burke, Frank Dunlop, Charlie Haughey a'i feibion, Tom a Michael Bailey, George Redmond ac eraill yn gwneud eu ffortiwn. Cyfreithiwr ifanc, tanbaid, yw Colm Mac Eochaidh. Fel sawl un arall, yr oedd yn amau fod drwg yn y caws. Yn 1995 gosododd Mac Eochaidh hysbyseb yn y papur yn addo £10,000 i unrhyw un a fyddai'n fodlon rhoi gwybodaeth iddo am gamymddwyn yn y swyddfeydd cynllunio. Atebodd James Gogarty yr hysbyseb a rhoi cychwyn i'r saga fwyaf yn hanes gwleidyddiaeth y wlad. Swyddog yn swyddfeydd cynllunio Dulyn oedd Gogarty. Dyn oedrannus erbyn hyn ond dyn angen tawelu ei feddwl. Gwyddai ormod. Y Gweinidog Cyfathrebu, Ray Burke, (plaid Fianna F/ail) a deimlodd yr ing gyntaf. Cyhoeddodd y wasg honiadau gan Gogarty i Burke gael £30,000 yn anrheg. Ymhen hir a hwyr, gorfodwyd Burke i ymddeol. Gobeithio fod y ddrycin drosodd Gobaith Fianna F/ail oedd fod y ddrycin drosodd. Ond cafodd aelodau eraill o'r blaid eu cysylltu ag anrhegion hael iawn. Ymddiswyddodd Liam Lawlor oherwydd honiadau tebyg. Cyhoeddwyd rhestr fanwl yn y wasg o enwau gwleidyddion y dywedwyd iddynt dderbyn anrhegion. Yna, ar ben y cyfan, cododd hanes Hugh O'Flatherty. Mae Hugh O'Flatherty yn farnwr wedi ymddeol. Yn 1996 fe'i beirniadwyd yn hallt am annhegwch ar ôl dedfrydu menyw ifanc caeth i gyffuriau i naw mlynedd o garchar am ddwyn handbag. Dedfrydodd bensaer i bedair blynedd o garchar am ladd rhywun pan yn gyrru yn feddw dwll. Rhyddhawyd y pensaer yn fuan iawn. Yr oedd yn sgandal. Er gwaetha'r drwgdeimlad yn erbyn y barnwr, enwebodd y llywodraeth O'Flatherty yn gyfarwyddwr 150,000 o bunnau'r flwyddyn gyda'r Banc Ewropeaidd. Aeth y wlad yn gandryll. Barnwr dan warth yn cael cynrychioli Iwerddon mewn maes lle nad oes ganddo arbenigedd. Ond yr oedd y Taoiseach Bertie Ahern a'r T/anaiste (y Dirprwy Weinidog) Mary Harney yn ddigyfaddawd: O'Flatherty oedd eu dewis. Y Llywodraeth ar ei gliniau Er y wyrth economaidd a'r tyfiant aruthrol, mae'r llywodraeth ar ei gliniau. Y gwrthbleidiau yn taranu am etholiad, a'r newyddiadurwyr wrth eu boddau. Drama heb ei hail sydd yn cael ei thrafod ym mhob tafarn a phob cegin o Malin Head i Tuskar Rock. Ray Burke, Liam Lawlor a Hugh O'Flatherty, James Gogarty a Mary Harney yw rhai o'r actorion yn y ddrama epig hon. Ond Charlie Haughey yw'r prif gymeriad. Mwy amdano fe y tro nesaf. Ymwelwch â'r safle hwn eto ddydd Mercher nesaf.
|
|