|
|
Gohebu dramor
Y mae Dylan Jones wedi bod yn gohebu ddwywaith o Bacistan i 成人论坛 Cymru yn ddiweddar - yma mae'n son am y profiad Dydd Llun, Tachwedd 9, 2001
|
Papur newydd yn dweud ein bod yn darged! "Wyt ti'n fodlon mynd i Islamabad ? Mi gei di wrthod os wyt eisiau." Dyna eiriau'r Golygydd Newyddion wrthai wrth i bethau boethi ym Mhacistan yn sgil y "Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth." Wnes i ddim ystyried gwrthod ac oeddwn, mi roeddwn yn gwbwl fodlon. Wedi'r cwbwl dyma beth oedd stori newyddion.
Ar ôl cael y pigiadau angenrheidiol roeddwn yn barod ac o fewn dyddiau mi deithiais gyda'r cynhyrchydd, Tim Jones, o Heathrow i Islamabad. Taith o naw awr a digon o amser i hel meddyliau. Doedd hi fawr o gysur darllen erthygl yn y Daily Mail yn dweud fod pob gorllewinwr yn darged ym Mhacistan gyda lluniau protestwyr gwrth Americanaidd yn atgyfnerthu hynny. Diolch byth, ar ôl cyrraedd y brifddinas roedd hi'n weddol amlwg fod gohebydd y Daily Mail yn gor-ddweud ychydig. Saeson mewn rhyfel a chriced Roedd mwyafrif y bobol yn groesawgar er bod angen bod yn ofalus wrth reswm. Fel y dywedodd un gwr lleol wrth imi geisio pwysleisio mai Cymro ac nid Sais oeddwn i: " When you play cricket you are English, when you go to war you are English." Roeddwn yn darlledu o do gwesty moethus y Marriott ond yn cysgu dan do gwesty llai moethus yng nghwmni cocrotsus lleol mewn rhan arall o'r ddinas. Doedd dim posib cael lle yn y Marriott, roedd pob ystafell unai'n swyddfa deledu, yn ystafell olygu, neu yn llofft i gwmnïau darlledu o bob cwr o'r byd. Protest yn erbyn America Mae'n debyg mai'r profiad mwyaf brawychus imi ei gael yn ystod fy wythnos gyntaf yno oedd mynd i brotest gwrth Americanaidd ger Mosque yng nghanol y ddinas. Ymhlith y miloedd o brotestwyr barfog doedd y gohebydd o Lannefydd ddim yn ymdoddi'n rhy dda. Er hynny, er gwaetha'r holl gasineb, roedd y trefnwyr angen camerâu teledu o'r gorllewin yno i drosglwyddo eu neges ac, o'r herwydd, doedd dim cymaint o fygythiad i ni a'r hyn fyddai rhywun wedi ei ofni. Paned gyda dwy Gymraes Doedd yna ddim bygythiad yng nghartrefi Sara Mahmood a Meira Aiub fodd bynnag - dim ond paned boeth a chroeso twymgalon. Mae'r ddwy Gymraes wedi priodi gwyr o Bacistan ac wedi byw yn Islamabad ers rhai blynyddoedd. Drwy eu cyfweld nhw roedd posib cael ongl fwy Cymreig i stori mor ryngwladol gan olygu fod gwylwyr Newyddion yn cael rhywbeth gwahanol i wylwyr newyddion Lloegr. Wrth ddychwelyd adre wedi wythnos yn Islamabad roeddwn wedi ymygynefino a'r diwylliant dieithr ac wedi dechrau agosáu at y cocrotsus hyd yn oed - rhyfedd sut mae dyn yn addasu pan fo raid ! O fewn wythnos imi gyrraedd adre roedd America a'i chynghreiriad Gorllewinol wedi dechrau bomio yn Affganistan a rhaid oedd dychwelyd i Islamabad i ohebu ar y datblygiadau diweddaraf yn yr ardal. Y tro yma gyda'r dyn camera Guto Orwig, mi fues yno am bythefnos. Dyn tacsi o'r radd flaenaf! Gan fy mod wedi bod yno'n barod roedd gennyf well syniad beth i'w ddisgwyl ac yn fodlon bod yn fwy mentrus. Trwy hap a damwain daethom ar draws dyn tacsi gwerth y'i adnabod. Roedd gan Taj reswm da dros fod ar delerau da a fo ei hun. Os oeddem angen cyfweld milwyr oedd yn gefnogol i'r Taliban, yna mi fyddai Taj yn gwybod lle i fynd. Cefnogwyr y llywodraeth? Taj oedd y dyn. Dolur rhydd ? Dim problem !!! A phob tro, lle bynnag yr aethom mynnodd Taj wrth y bobol leol ein bod o Wlad Belg gan na fyddai yna groeso i Americaniaid a Phrydeinwyr . Does wybod beth fuasai wedi digwydd pe byddai rhai o'r bobol leol hynny wedi dechrau siarad Ffrangeg â ni! Peshawar yn agoriad llygad Yn ystod y pythefnos buom hefyd yn ninas Peshawar yn nes i'r ffin ag Affganistan. Dyma beth oedd agoriad llygaid. Miloedd ar filoedd o bobol ym mhob man, pawb yn crafu byw ac yn gwerthu rhywbeth. Yno ar gyrion y ddinas cefais holi Pir Sayed Ishaq Gailani, prif gefnogwr cyn frenin Affganistan. Cawsom ein tywys ato gan ei warchodwyr arfog ac unwaith yr oedd wedi gorffen ei gyfweliad â ni, fe adawodd am yr Eidal i gael trafodaethau a'r cyn frenin ynglyn â sefydlu llywodraeth glymbleidiol yn Affganistan. Rhyfedd o fyd ! Wedi pythefnos mor lawn roedd hi'n braf cael ei throi hi am adre a chael bwyd cartre unwaith eto. Er hynny dwi'n gobeithio y caf ddychwelyd i Bacistan a beth bynnag taswn ni'n sôn wrth Taj, dwi'n siwr y buasai'n gallu cael hyd i fowlen o lob sgows imi yn rhywle yno !
|
|