Ebrill 2006 Fel "Tywysoges Cymru" yr oedd nyrs Gymraeg yn cael ei hadnabod ymhlith y bobl y bu'n eu cynorthwyo ym Mhacistan.
Er bod Elin Jones, 30 oed, yn mwynhau cyfforddusrwydd ei chartref yn Y Bala ar hyn o bryd mae'n dyheu am gael dychwelyd yn ôl i helpu eraill yng ngwledydd tlawd y byd.
Pan ddaeth y newyddion am ddaeargryn Pacistan yr oedd Elin newydd gwblhau cwrs hyfforddi arbennig ym Mharis yn ymwneud â phobl mewn sefyllfaoedd peryglus ac felly wedi ei pharatoi ar gyfer y math o brofiadau a fyddai'n ei disgwyl ym Mhacistan.
Dywedodd na chafodd gyfle i feddwl na phendroni ynglŷn â mynd yno dim ond neidio ar awyren am Islamabad yn syth ar ôl derbyn galwad gan grŵp MSF bedair awr ar hugain wedi'r daeargryn.
Lladdwyd dros 20,000 o bobl gan y daeargryn fis Hydref y llynedd, 2005.
"Mi roeddwn newydd orffen y cwrs pan dderbyniais alwad ffôn gan MSF yn gofyn imi fynd i Kashmir ym Mhacistan i helpu goroeswyr y daeargryn a dyma gytuno'n syth!" meddai.
"Roedd y sefyllfa ym Mhacistan yn ddifrifol, gyda thros 2.5 miliwn wedi colli eu cartrefi. Roedd llaweroedd heb loches a heb fwyd a heb ddŵr oer i'w yfed.
"Byddai hyn yn araf arwain at ddiffygion iechyd hefyd; felly roedd yn bwysig ein bod yn cychwyn ar y gwaith yn syth," meddai.
"Roedd MSF ym Mhacistan cyn y daeargryn a'r gofal wedi dechrau yn syth yn ogystal â chynllun iechyd meddwl ar gyfer dioddefwyr," ychwanegodd.
"Dwi'n cofio cerdded oddi ar yr hofrennydd yn Hatianbala a gweld pobl ym mhobman yn dangos dim emosiwn o gwbl. Yn amlwg mewn sioc difrifol.
"Roedd rhaid cychwyn gweithio yn syth a dechrau gosod pethau i fyny a sicrhau fod pebyll ar gyfer llawdriniaethau, ynghyd a lle iddynt wella wedyn.
"Ym mhobman roedd pobl wedi eu hanafu gydag esgyrn wedi eu rhwygo allan o'u crwyn a nifer wedi cael anafiadau difrifol i'w pennau ac i rannau eraill o'r corff.
"Bu'n rhaid symud y cleifion difrifol gyda hofrennydd i Islamabad yn syth a cheisio trin y rhai eraill ein hunain.
"Doedd dim adeiladau yn unman a phawb yn dibynnu ar babelli oedd gan y gwahanol grwpiau gwirfoddol.
"Doedd dim i'w weld o'r ysgol ond adfeilion. Roedd y tai i gyd wedi diflannu a doedd dim sôn am ffyrdd a phob teulu wedi colli brawd neu chwaer, tad a mam.
"Roedd hi'n sefyllfa hynod drist ac anodd a phobl yn cael eu haddysgu i fod yn gynghorwyr gan fod cymaint yn gorfod delio gyda marwolaeth yno," meddai.
Er nad oedd wedi paratoi ymlaen llaw dywedodd Elin iddi allu dygymod yn rhyfeddol â'r holl waith cerdded.
I'r mynyddoedd "Wedi inni sefydlu ein hunain roedd yn rhaid i mi a Jane, nyrs arall o gwmni MSF, roi paciau ar ein cefnau a'i chychwyn hi am y mynyddoedd ac allan i'r pentrefi. Roedd yn rhaid asesu pobl ac yna benderfynu os oedd angen eu cario i lawr i Hatianbala i dderbyn llawdriniaeth.
"Er inni wneud y daith yma'n ddyddiol roedd hi'n beryg iawn gyda thirlithriadau ymhobman,.
"Wedi eu hasesu roedd pobl leol yn cario'r cleifion oedd angen triniaeth ychwanegol am y pedair awr i bebyll yn Hatianbala.
"Er bod gennym ddigon o gyflenwadau meddygol roedd yn rhaid cael hofrennydd bob dydd ar gyfer symud cleifion. Ac yr oedd pethau'n newid bob dydd a rhywun mor brysur roedd y dyddiau yn llifo i'w gilydd," meddai.
Eu bywyd wedi chwalu "Yn amlwg roedd y bobl i gyd mewn sioc. Doedd dim lloches ar eu cyfer, roedd ei bywyd wedi chwalu o'u blaenau a nawr roedd yn rhaid meddwl am ail gydio ym mhob dim ac ail adeiladu.
"Agorwyd clinig ac wedyn ysbyty i blant a chanolbwyntio ar y plant tra roedd doctoriaid o Ciwba yn canolbwyntio ar yr oedolion."
Wynebai cymhlethdodau newydd Elin a'r tîm bob dydd.
"Wedi inni sylweddoli bod gan un plentyn frech goch bu'n rhaid lansio ymgyrch brech goch, sicrhau pigiadau a brechu dros 5,000 o blant mewn cyfnod byr iawn.
Bu i un babi bach farw - ond cafodd llawer eu hachub.
"Cymerodd un ddynes 79 oed blant dan ei hadain wedi iddynt golli eu rieni yn y daeargryn er ei bod yn sâl iawn ac yn gorfod aros yn y babell i dderbyn triniaeth.
"Roedd yn poeni cymaint am y plant bu'n rhaid imi fynd ganol nos i wneud yn siŵr eu bod yn iawn ac yn cysgu."
Er i Elin edrych ymlaen at gael dod adref ar gyfer y Nadolig dewisodd aros am dri mis arall er mwyn cynnig mwy o gymorth a chysur.
"Byddai wedi bod yn anodd iawn mynd adref. Roedd lot o waith ar ôl i'w wneud.
"Gan fod rhaid canolbwyntio ar ofal iechyd cyffredinol y wlad sefydlwyd ystafell esgor a chlinig ar gyfer mamau ac am y tro cyntaf erioed cefais wneud gwaith bydwraig a geni babi."
Daeth yr eira . . . "Wedi ychydig wythnosau roedd pobl yn dychwelyd i'w gwaith a'r ffyrdd erbyn hyn ar agor, ond roedd y tirlithriadau yn beryglus ac yn fuan iawn daeth yr eira a difetha nifer o adeiladau unwaith eto.
"Gyda'r eira'n drwchus roedd hi hefyd yn anodd symud y cleifion i ofal dwys yn Islamabad."
Wedi bron i saith mis ym Mhacistan roedd hi'n amser i Elin ddychwelyd adref.
"Roedd hi'n braf edrych ar y lle cyn gadael a gweld y gwahaniaeth enbyd oedd wedi bod yn ystod y chwe mis y bum i yno.
"Pan gyrhaeddais i doedd dim byd i'w weld; popeth wedi mynd ac roedd hi'n hollol amazing gweld y lle cyn gadael a'r holl newidiadau.
"Roeddwn yn cael fy adnabod yno fel y Princess of Wales wedi imi ddweud wrthyn nhw am Gymru fach.
" Dwi'n mwynhau'r gwaith. Dwi'n teimlo mor fyw pan ydw i wrth fy ngwaith yn helpu eraill.
Ethiopia a Sudan Yn 2003 y cychwynnodd Elin ar ei theithiau fel nyrs gan ymweld â Humera yn Ethiopia lle bu'n rhan o gynllun HIV ac AIDS gwerthfawr.
Wedi saith mis yn Sudan dywed ei bod yn dal i feddwl bob dydd am y plant bach yno.
"Mae effaith daeargryn a'r wlad yn ofnadwy ac yn dorcalonnus ond mae'n beth naturiol. Does gan neb reolaeth dros y pethau hyn; ond yn Darfur yn Sudan, llaw dyn sydd tu ol i'r dioddef, ac mae hynny'n beth anodd iawn delio ag ef.
"Mae pobl dal i farw yno ond roedd hi'n braf clywed gan aelod o dîm MSF eu bod nhw wedi cau'r ganolfan fwydo y bu mi'n rhannol gyfrifol am ei sefydlu yno gan nad oes ei hangen erbyn hyn. Mae clywed hynny yn ffantastig."
Gobaith Elin dros yr haf yw cael nawdd i ddysgu Ffrangeg yn Ffrainc. Ond mae'n gwybod os daw galwad y bydd y cês yn ôl ar y gwely a hithau yn pacio ei photel dŵr poeth unwaith eto!
|