Marian Bryfdir - Granada - Mawrth , 2002 Helo. Marian Bryfdir sydd yma o ddinas hardd Granada yn Andalucia. Bu tîm y 成人论坛 gyda mi am dri diwrnod ym mis Tachwedd yn ffilmio y rhaglen Ar Dy Feic efo Hywel Gwynfryn.
Roedd yn bleser arbennig i mi gael dangos lle'r wyf yn byw ers deng mlynedd - dyma fy "ail-gartref" erbyn hyn. Mae'r iaith Sbaeneg yn iaith reit naturiol imi - mae'r rhan fwyaf o'r cantorion a'r cerddorion sydd yn astudio gyda mi yn Sbaenwyr ac yn siarad Sbaeneg trwy'r amser. Ychydig o Saesneg sydd i'w glywed yn y rhan yma o Andalucia felly mae'n rhaid imi ymarfer fy Sbaeneg! Ond mae hi bob amser yn bleser cael siarad Cymraeg eto - ac roedd hi'n dipyn o culture shock ryw fore Sul clywed llais Hywel Gwynfryn yn galw, "Sut mae Marian ?" yng nghanol sgwar Plaza Nueva! Ac yn syth wedyn dyma weld y tîm i gyd yn cyrraed gyda llond tacsi o gamerau ac wrth gwrs "y beic". Dim llawer o hwyl Ar ôl cael coffi bach i ffwrdd a ni i'r Albaycin - y rhan hynaf o'r ddinas a'r llecyn gorau i weld un o olygfydd mwyaf enwog yn y byd sef Castell yr Alhambra a mynyddoedd y Sierra Nevada yn y cefndir. Cefais gyfle yno hefyd i weld Hywel yn ceisio dysgu chwarae'r castanets - chafodd o ddim llawer o hwyl arni - a llai fyth gyda'r wers ganu a roddais iddo yng Nghanolfan Theatr Andalucia y dwrnod wedyn!! Cawsom hwyl hefyd yn mwynhau'r te a'r teisennau Moorish traddodiadol yn y teteria (y ty te) - yn yr hen ardal Caldereria. Uchafbwynt yr ymweliad i mi oedd gweld Hywel yn ei wisg flamenco yn ymuno a'r ddawns yng Nghlwb Flamenco Elshavira." - fe gawson ni noson i'w gofio! Gobeithio y gwnewch chi fwynhau y rhaglen "Ar Dy Feic. Adios!
|