Cymraeg dros y dŵr
Diddorol oedd darllen yn ddiweddar am dwf y Gymraeg dros y dŵr yng Nghanada. I'r rhai hynny ohonom sy'n aelodau o NAACLT sef y North American Association of Celtic Language Teachers, nid oedd hyn gymaint o syndod ond serch hynny, roedd yn braf gweld cydnabyddiaeth bod lle i'r iaith Gymraeg y tu allan i'w chadarnleoedd a Phatagonia.
Gan hynny, mae'n werth ystyried dyfodol y Gymraeg a'i ffyniant mewn mannau efallai llai disgwyliedig.
Gwn ei bod wedi cael ei dysgu am flynyddoedd maith yn Llydaw, er enghraifft, ac felly hefyd tan ddiwedd y degawd olaf yn yr Almaen ac Awstria hefyd.
Yn yr achosion hyn, treftadaeth Frythoneg gyffredin neu draddodiad cryf o astudiaethau Indo-Ewropeaidd a Cheltaidd sy'n gyfrifol am y fath ddiddordeb.
Ond a glywsoch chi sôn bod ein hiaith yn cael ei dysgu mewn llefydd, dyweder, mwy egsotig?
Ymddiddora Ymherodres Siapan yn ein gwlad a'n diwylliant gymaint fel ei bod yn mynychu gwersi preifat yn Tokyo a'r athro cyfrifol yn dderwydd yng Ngorsedd y Beirdd ac mae Cylch Siarad Cymraeg y brifddinas yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd.
Sgwrs a chlonc Yr un yw'r stori ym Mharis, lle bûm innau yn Ysgrifennydd y Clwb o 1998 tan 2001.
Yn ystod yr amser hwnnw byddem yn cyfarfod yn fflatiau ein gilydd am sgwrs neu glonc yn yr hen iaith dros win a danteithion.
I'r rhai â digon o hyder, bydd modd cael gwersi ffurfiol yn y Gymraeg trwy gyfrwng y Ffrangeg yn unigolion neu'n rhan o grŵp mewn ystafell bwrpasol wedi ei pharatoi mewn tafarn yng nghanol y ddinas.
Fi fyddai'n gyfrifol am hynny hefyd a byddai pawb yn cael llawer o hwyl yn ceisio dehongli pam fod treiglad meddal yn berthnasol wrth archebu eu gwin coch.
Yn arbennig felly'r Llydawiaid; gofynnwch iddyn nhw beth yw ystyr "Gwin coch" yn eu hiaith nhw...
Nid cyrsiau ceiniog a dimai Ond nid cyrsiau ceiniog a dimai mohonynt ychwaith. Paratowyd, arbrofwyd a theilwriwyd llyfr testun personol gennyf - Croeso! - a chafwyd llawer o adborth cryf a phositif. Ydych chi'n gwrando gyhoeddwyr Cymru?
Ymhellach, er 1998 rwyf yn mynychu Expolangues, math o Eisteddfod Genedlaethol i ieithoedd y byd ym Mharis, yn fy rhinwedd fel swyddog answyddogol Cymru a'r iaith Gymraeg.
Rhoddaf wersi cyfathrebol llwyddiannus yn ein mamiaith i ieithyddion ac eraill trwy gyfrwng y Ffrangeg, i gyd ar fy liwt fy hun.
Gwn nad oes yr un brwdfrydedd yng Nghymru i groesi'r Môr Udd ymysg eraill sydd â'r cyfrifoldeb statudol i hybu ein hiaith.
Ond nid yn Ffrainc mohonof bellach - ond yr un yw'r swyddogaeth - hybu Cymru, Cymreictod a'r iaith Gymraeg.
Yng Ngwlad Pwyl Y tro hwn, darlithydd ydw i mewn Prifysgol yng Ngwlad Pwyl. Yn wir, hyd at yr hydref eleni, fi fydd unig athro Cymraeg ei famiaith sy'n dysgu'r Gymraeg yng Ngwlad Pwyl.
Mae'r traddodiad o ddysgu am y Diwylliant Celtaidd yma yn Lublin yn dyddio o 1989 ac erbyn hyn mae pob myfyriwr MA Saesneg yn gorfod dysgu'r Cymraeg neu'r Wyddeleg am ddwy flynedd cyn graddio.
Mawr yw fy mraint felly cael addysgu tua 30 o fyfyrwyr brwd Blynyddoedd III a IV am ein hiaith, diwylliant, cefndir hanesyddol a sefyllfa boliticaidd gyfoes.
A wyddoch chi beth? Maent yn llawer gwell wrthi nag ambell i Sais neu Saesnes sydd wedi byw yng Nghymru am ddegawdau!
Fel rhan o'u haddysg ac fel rhan o adloniant diwylliannol buom yn cynnal dau Ddiwrnod Cymreig yma yn y Brifysgol yn ddiweddar - Mai 9 a 10, 2007.
Derbyniwyd gwahoddiad gan Angharad Tomos i roi darlithoedd i ni am ei bywyd a'i gyrfa lenyddol ac ymgyrchol.
Roedd pawb yn hynod o falch o'i chlywed ac yn ei hedmygu'n fawr.
Cawsom anerchiadau ar Lyndŵr, y Brenin Arthur a Gwynfor Evans, i gyd trwy gyfrwng y Bwyleg.
Hanes herwheliwr Traddodais innau ar fywyd Ellis Williams, yr herwheliwr o Landdeiniolen yn yr hen Sir Gaernarfon a aeth yn gaucho ym Mhatagonia ac wedyn yn ffermwr defaid yn Ne Cymru Newydd, Awstralia, a chael ei ladd ym mis Ebrill 1918 yn y Rhyfel Mawr.
Hwyrach ichi weld yr hanes ar ffilm Nadolig S4C y llynedd. Hwyrach eich bod yn gwybod mod yn or-nai iddo.
Ond nid academia oedd popeth dros ein Gŵyl Gymreig.
Arweiniais gwis llwyddiannus ar Gymru ar brynhawn olaf y gweithgareddau, a chyn diwedd y noson cafwyd blas ar brofi Twmpath. Mawr i ddiolch i'r rhai hynny o Gymru a gyfrannodd ddeunydd ar gyfer y dawnsio - ond ymddiheuriadau nad oedd yn bosibl gwahodd tylwyth o ddawnswyr proffesiynol i'n haddysgu ni ar y noson.
Fe welwch felly bod y Gymraeg yn mynd o nerth i nerth yng Ngwlad Pwyl a byddaf yma am flwyddyn arall gobeithio yn dysgu, yn paratoi doethuriaeth ar agwedd o ieithyddiaeth y Gymraeg ond yn bennaf oll, yn cael hwyl.
Bydd croeso mawr i bwy bynnag fydd yn fy nilyn yn hydref 2008, a hyderaf fedraf ysgogi rhywun o'r hen wlad i godi'r awenau'r adeg honno.
Croesawaf unrhyw sylw gennych chi Gymry gartref neu hyd yn oed Gymry eraill sydd ar hyn o bryd gyda hiraeth am eu hen fröydd.
O bydded i'r heniaith barhau!
Mae Siôn Rees Williams yn ddarlithydd prifysgol yn y Gymraeg a'r Saesneg ym Mhrifysgol Babyddol Ioan Pawl II yn Lublin, Gwlad Pwyl
ac yn Ymgynghorydd Diwylliannol ac Iaith tairieithog.
|