成人论坛

Coroni Catrin

Gyda'i choron

Stori sy'n cychwyn ar draeth heb fod yn bell o faes yr Eisteddfod ac wedi ei sgrifennu gan ferch leol a enillodd goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Llanerchaeron i Catrin Haf Jones sydd wedi ei magu ar fferm yn yr ardal.

Disgrifiwyd ei hymgais 12,000 o eiriau, Fflamau, fel un ai nofel fer neu stori fer hir, hir, gan Ceri Wyn Jones a oedd yn traddodi ei feirniadaeth ef a Fflur Dafydd.

"Bu'n rhaid i Caryl a minnau arafu rhywfaint ar 么l darnau mwy cywasgedig a phrysur y deg cystadleuydd arall," meddai.

Ond ychwanegodd ei bod werth arafu a dod i ymdeimlo a dawn gyfareddol y cystadleuydd fel adroddwraig stori "sy'n dweud ei dweud gyda'i holl synhwyrau'n effro".

"Mae'r stori yn agor liw nos yng nghefen gwlad glan m么r yng nghanol yr eira a chyda graean yn brin mae mab a merch fferm yn rhofio tywod traeth i'w sachau, yn anghyfreithlon wrth gwrs, tra bod eu tad yn chwarae rhan y lwcowt," meddai.

Er yn agoriad diniwed ar un ystyr dywedodd ei fod hefyd yn un sy'n llawn awgrymiadau o ddirgelwch sydd i ddod mewn cyd-destun gwahanol iawn ar fferm y teulu.

"Dirgelwch sydd fel y cymeriadau yn cael ei ddatgelu yn hynod o raddol a chelfydd ac sy'n ein harwain ni at ddiweddglo cyffrous a dirdynnol," meddai.

"Hwyrach y byddai rhai yn dadlau bod angen peth twtio er mwyn i'r naratif beidio a cholli ei fomentwm ond dy ni ddim am i hynny dynnu o gwbl oddi wrth gamp aruthrol, meddai.

"Yn ddiamau ganddi hi y cawsom ni'r wefr honno sy'n perthyn i ryddiaith o'r iawn ryw," ychwanegodd.

.

Ers graddio o Adran Y Gyfraith, Prifysgol Durham y llynedd, mae Catrin yn awry n astudio gradd Meistr mewn Cymraeg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor ond dywedodd nad oedd ei stori yn rhan o'i chwrs coleg.

Dywedodd i ennill y Goron yn ei bro ei hun eoi gwefr arbennig iddi:

''Mae ennill y Goron mewn Eisteddfod leol yn deimlad arbennig iawn ac fe hoffwn ddiolch i'm hathrawon Cymraeg yn Ysgol Gyfun Aberaeron yn ogystal ag Adran Y Gymraeg, Prifysgol Bangor am eu cefnogaeth. Ond yn bennaf oll, hoffwn ddiolch i'm teulu am eu hysbrydoliaeth ddiddiwedd.''

Cyfeiriodd yn arbennig am ysbrydoliaeth ei nain gan ddweud mai ei henw hi, Jennie Jones, a ddewisodd yn ffugenw.

Yn anffodus ni allai hi fod yn bresennol yn yr Eisteddfod oherwydd ei iechyd.

Er i Catrin sicrhau prif wobr y dydd dyw y cystadlu ddim drosodd iddi hi eto yn yr Eisteddfod hon.

Bydd ganddi gystadleuaeth siarad cyhoeddus heno a chystadlaethau gydag Aelwyd John Morris Jones, Bangor, nos yfory!

Wedyn bydd angen mynd o amgylch y teulu i ddangos y fodel o'r goron a gyflwynwyd iddi a phenderfynu wedyn lle i'w chadw!


Dysgu

Gweithgareddau cerddorol ar gyfer plant 7-11 oed

Syrcas Gerdd

Dewch draw i'r Syrcas Gerdd i fwynhau gweithgareddau cerddorol rhyfeddol ar gyfer plant 7-11 oed.

G锚m y Gof

G锚m y Gof

Chwarae

Gweithia dy ffordd trwy'r pedair lefel i ddod yn feistr yng ngefail y castell.

Ffeil

Darllenwch y penawdau newyddion, chwaraeon diweddaraf a'r ar dudalen newydd Ffeil.

成人论坛 iD

Llywio drwy鈥檙 成人论坛

成人论坛 漏 2014 Nid yw'r 成人论坛 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.