Dywedodd enillydd Medal y Dysgwyr yn yr Eisteddfod nad oedd ganddo ddewis ond dysgu Cymraeg - er mwyn deall beth oedd yn digwydd yn y gymuned y symudodd iddi o ddwyrain Lloegr.
"Roedd raid ifi ddysgu a bod yn hollol onest. Es i ysgol gynradd hollol Gymraeg lle nad oedd |dim Saesneg yn cael ei siarad o gwbl ac er mwyn ffitio'i mewn roeddwn i'n gorfod siarad Cymraeg ac rwy'n falch mod i wedi'i wneud," meddai Jack Pulman-Slater wedi'r seremoni i'w anrhydeddu ar lwyfan yr Eisteddfod.
Yn ddisgybl erbyn hyn yn Ysgol Gyfun Emlyn, Castell Newydd Emlyn, mae Jack yn byw yn Y Gl么g, ger Crymych yn Sir Benfro.
"Symudais i'r ardal saith mlynedd yn 么l o Norfolk a dechreuais ddysgu Cymraeg ym mlwyddyn chwech yn yr ysgol gynradd. Rydw i nawr yn astudio Cymraeg Ail-iaith, Llenyddiaeth Saesneg, Astudiaethau Crefyddol a Drama ar gyfer Lefel-UG," meddai.
Wrth edrych ymlaen ii'r dyfodol dywedodd ei fod yn ystyried gyrfa fel therapydd llais a iaith ac mae'n gobeithio astudio Ieithyddiaeth mewn prifysgol.
"Mae dysgu iaith arall wedi rhoi diddordeb i mi mewn sut mae ieithoedd yn gweithio," meddai.
Gwnaeth ei waith ar gyfer y gystadleuaeth argraff fawr ar y ddau feirniad, Lynwen ap Gwynedd a Gillian Jones.
"Yn ymgeisydd aeddfed," meddai Lynwen ap Gwynedd, "a chyflwynodd dasgau ysgrifenedig uchelgeisiol iawn mewn iaith goeth a graenus yn gyffredinol."
Cyfansoddodd lythyr yn mynegi barn ar bwysigrwydd hybu dwyieithrwydd yng Nghymru, sgwrs "llawn hiwmor" rhwng Hwntw a Gog ac erthygl hanesyddol ar ddatblygiad yr iaith Gymraeg yn y cyd-destun Ewropeaidd.
"Roedd y safon yn gyson dda yn yr holl ddarnau ac amlygwyd aeddfedrwydd yn y mynegiant a'r cynnwys. Roedd yr ymgeisydd hwn yn cyfathrebu'n naturiol ar lafar," ychwanegodd.
Dywedodd Jack mai dyma'r troi cyntaf erioed iddo gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd er iddo fod yn yr Eisteddfod o'r blaen.
Ymhlith ei ddiddordebau eang mae'n aelod gwmni theatr yng Nghastell Newydd Emlyn gan chwarae y llynedd ran 'Prince Charming' mewn sioe Nadolig.
"Ond doeddwn i ddim yn 'swynol' iawn, yn 么l cyfarwyddwraig y sioe!" meddai.
Mae hefyd yn ysgrifennu dram芒u i'r theatr.
Gyda rhan o'i ymgais yn ymwneud 芒 dyfodol yr iaith Gymraeg dywedodd mai'r casgliad iddo ddod iddo yw mai dyfodol yr iaith yw pobl Cymru.
"Nid jyst dysgwyr fel fi ond pobl Cymru i gyd sy'n mynd i benderfynu beth yw dyfodol yr iaith," meddai.
"Ydw i'n hyderus yngl欧n 芒 dyfodol yr iaith? Mae heddi yn Eisteddfod yr Urdd yn profi bod na ddyfodol mawr a braf i'r iaith Gymraeg," meddai.
Er i safon ei Gymraeg wneud argraff fawr ar bawb y bu'n siarad 芒 hwy yn yr Eisteddfod dywedodd Jack na fydd byth yn peidio ag ystyried ei hun yn ddysgwr.
"Bob dydd rwy'n cerdded i'r ystafell Gymraeg yn yr ysgol dwi'n dysgu rhywbeth newydd a dydw i byth eisiau peidio a galw fy hun yn ddysgwr nid fy mamiaith i ydi'r Gymraeg," meddai.