成人论坛

Talu teyrnged i Lywydd Anrhydeddus 'bytholwyrdd'

Esyllt Jones Davies

04 Mehefin 2012

Yn ol Meriel Parry, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Eryri, un enw a ddaeth i'r meddwl pan roedden nhw'n ystyried enwebiadau ar gyfer llywydd anrhyddeddus yr 诺yl eleni.

Chwilio roedden nhw am rywun oedd wedi gwneud cyfraniad nodedig, naill ai drwy eu gwaith i'r Urdd neu drwy fod yn rhan o fywydau pobl ifanc yn Eryri, a doedd dim amheuaeth mai Esyllt Jones Davies, neu Anti Ses i lawer - oedd honno.

"Mae gan bawb feddwl y byd o Anti Ses ac yn gwerthfawrogi'r holl waith mae wedi wneud dros bobl ifanc yr ardal," meddai Meriel Parry.

"Mae ei chyfraniad i'r Urdd yn amhrisiadwy ac roedd pawb o'r Pwyllgor Gwaith yn gyt没n ei bod yn hollol haeddiannol o'r enwebiad i fod yn Llywydd Anrhydeddus Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012."

Mae cenedlaethau o blant Eryri, a Dyffryn Nantlle yn arbennig, yn adnabod y 'bytholwyrdd' Anti Ses fel hyfforddwraig lwyddiannus ar adroddwyr a llefarwyr rif y gwlith dros y blynyddoedd. Mae wedi cael llwyddiant gydag unigolion a phartion yn eisteddfod genedlaethol yr Urdd droeon.

Hi a sefydlodd Adran Bentref Llanllyfni, lle mae wedi ei geni a'i magu, ac yn dal i fyw hyd heddiw.

Mae hi yn gyn-ddisgybl yn ysgol y pentref ac yna Ysgol Sirol Penygroes. A hithau yn tyfu i fyny yng nghysgod y rhyfel, ei chof cyntaf am yr Urdd ydi cystadlu gyda'r g芒n actol pan ym mlwyddyn olaf y 6ed dosbarth.

"Miss Pritchard oedd yn ein hyfforddi, a dwi'n cofio ein bod yn defnyddio cryman a basgedi bwyd i bortreadu'r cynhaeaf," meddai Ses. "Fe chwipiodd fy nghryman i fasged fy ffrind, Elizabeth, ac fe dreulion ni weddill y g芒n actol rhwng gigls a thrio gwneud ein gorau!"

Daeth llwyddiant i'w rhan yn Eisteddfod Wyddgrug 1959 gydag Adran Ysgol Llanllyfni pan enillodd y g芒n actol Barti Ddu y flwyddyn honno, a Ses yn gyfrifol am y colur a'r gwisgoedd.

Roedd yr Urdd yn y gwaed ar yr aelwyd adref, gydag Ifan Jones Davies, ei diweddar 诺r a hithau yn gwirfoddoli i helpu'r mudiad yn lleol ac yn genedlaethol ar Gyngor yr Urdd.

Meddai Ses: "Roedd yr Urdd yn rhan o fywyd i Ifan a fi erioed".

Roedd eu merch, y diweddar Lyn Mortell, hefyd yn gefnogol i'r Urdd yn Sir y Fflint . Yn Eisteddfod yr Urdd Dyffryn Nantlle ac Arfon 1990 - y tro diwethaf i'r 诺yl ymweld a Glynllifon - ei g诺r, Ifan, oedd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, Esyllt Jones Davies oedd Cadeirydd y Pwyllgor Llety a Chroeso a Lyn oedd Meistres y ddefod Medal y Dysgwyr.

Heddiw, Mrs Davies yw Trysorydd Pwyllgor Cylch Dyffryn Nantlle, wedi iddi gymryd mantell Ifan gyda'r gwaith. Mae hi wrth y drws yn casglu arian ym mhob Eisteddfod Cylch a Sir ers degawdau.

Gyda'r eisteddfod eleni ar stepen ei drws, mae ei chyfraniad eang i'r Urdd yn cael ei gydnabod mewn seremoni anrhydeddu ar lwyfan y Pafiliwn ddydd Llun, 4 Mehefin, cyn Seremoni y Fedal Gyfansoddi tua 14:20.


Plant

Dewch i fyd hudol Tree Fu Tom am gemau, anturiaethau a swynau!

Ffeil

Darllenwch y penawdau newyddion a'r chwaraeon diweddaraf a gwylio'r rhaglen.

Mabinogi

Gemau Mabinogi

Rhowch gynnig ar chwarae gemau newydd sbon y pedair cainc y Mabinogi.

Bitesize TGAU

Logo Bitesize

Cymorth adolygu

Gweithgareddau, testun adolygu, fideos, clipiau sain a phrofion!

成人论坛 iD

Llywio drwy鈥檙 成人论坛

成人论坛 漏 2014 Nid yw'r 成人论坛 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.