Cafodd y Fedal Gelf yn Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012 ei hennill gan ddisgybl sy'n astudio Lefel A tra bod cyn enillydd y Fedal wedi ennill Ysgoloriaeth Gelf, Dylunio a Thechnoleg yr Eisteddfod.
Mae'r Fedal yn cael ei chyflwyno am yr eitem orau yn yr Adran Gelf, Dylunio a Thechnoleg o dan 18 oed.
Disgybl yn Ysgol Y Creuddyn, Bae Penrhyn, Nia Wyn Williams, yw'r enillydd eleni.
Cyn enillydd y Fedal, Judith Musker Turner o Geredigion sydd wedi ennill Ysgoloriaeth Gelf, Dylunio a Thechnoleg y Eisteddfod Eryri.