Cynhaeaf rhad ar faes Gloddaeth
Byw yn rhad ar Faes Steddfod
Gyda maes Eisteddfod ag enw mor ddrwg am fod yn lle drud bu ein gohebydd yn ymweld 芒'r stondinau i weld oes yna unrhyw beth allwch chi ei gael am ddim y dyddiau hyn.
A lle gwell i ddechrau nag wrth y fynedfa ei hun - lle bu'r Western Mail yn rhannu bagiau lliain amgylcheddol gyfeillgar am ddim bob dydd.
Wel, nid yn gwbl am ddim gan fod yn rhaid gwario 58c am y papur cyn cael y bag - ond fe fydd yn beth hwylus i ddal yr holl ddanteithion 'am ddim' eraill y daw rhywun ar eu traws!
Ac yr ydych yn cael ffrisbi melyn yn y bag hefyd.
Buan iawn yn ystod ei grwydradau y mae dyn yn sylweddoli bod cyrff cyhoeddus a mudiadau ymylol lled swyddogol nad ydych wedi prin glywed s么n amdanyn nhw o'r blaen yn llawer mwy hael na busnesau preifat nad yw pwrs y wlad o fewn eu cyrraedd.
Byd beiros
Beiros.
Mae'n deg dweud mai dyma'r pethau sy'n cael eu rhannu amlaf ac erbyn cwblhau un cylch o gwmpas cornel fechan o'r maes byddai'r ffordd yr oedd beiros yn amlhau yn fy mhoced yn gwneud i gwningen deimlo'n annigonol!
Digon erbyn y diwedd i sgrifennu hunangofiant deirgwaith drosodd, nofel neu ddwy a blodeugerddi dirifedi ...
Ond hyd yn oed ym myd beiros mae gwahaniaeth rhwng beiro a beiro mewn gogoniant ac o bosib mai'r un fwyaf dyfeisgar oedd un siap triongl gyda lliw gwahanol ym mhob pegwn!
Yn ogystal ag un ar bymtheg o beiros gwahanol llwyddwyd i bocedu hefyd nifer o bensilau a chreons gan gynnwys rhai mewn pecyn gyda'r geiriau; "Cymraeg - kids soak it up" y tybiais mai sebon oedd o nes ei agor!
Ymhlith y trysorau eraill yr oedd pren mesur, darn o rwber i'w wasgu a'i stwytho pan fo bywyd yn drech, hylif creu swigod, mat llygoden, balwn, nifer o ddalennau chwileiriau a chardiau lliwio - gan y Geids - c么t law blastig, melin wynt blastig a dau fwlb trydan amgylcheddol gyfeillgar gan gwmni ynni, rwberi, dolennau allweddi, sgwaryn i roi cwpan boeth arno, llyfr o resipiau gan blant a llyfr gwybodaeth am gig.
Na, fydd dim anhawster llenwi sanau Nadolig yn ein teulu ni deued fis Rhagfyr!
Ond yn well na'r holl geriach lliwgar oedd y sgyrsiau a gafwyd yn ystod yr ymweliadau 芒 gwahanol bebyll.
Pabell gwefan natur gyda phob math o sgerbydau a gwyfynod difyr i'w gweld, llwyth o wybodaeth ddifyr a gofalwr gyda digon o amser i'w rannu.
Ym mhabell wedyn yr oedd swyddog yn gofidio am y diffyg diddordeb sydd yna y dyddiau hyn mewn dysgu ieithoedd tramor gyda'r niferoedd sy'n astudio i lawr yn sylweddol yn yr ysgolion wrth i bynciau eraill fynd a bryd disgyblion.
Mewn pabell arall yn oedd gwraig fonheddig 芒 chynghorion buddiol iawn am bensiynau!
gan gynnwys un i sgrifennu at yr ASdran bensiynau y Llywodraeth.
Ac erbyn hynny yr oedd gan rywun y beiros i wneud hynny, wrth gwrs!