Dyddiadur Dyddiol (5)
Briwsion bob dydd
Nodiadau dyddiol o faes yr Urdd
Erbyn bore Gwener fel hyn mae'r holl gyfansoddiadau llenyddol ar gael i'w gweld.
Yr arferiad erbyn hyn yw cyhoeddi crynswth y cyfansoddiadau ddechrau'r wythnos a chadw cynnyrch y prif gystadlaethau llenyddol tan ar 么l defod y Coroni gan roi inni ddwy gyfrol gyda'r naill a'r llall yn costio 拢5 yr un - un yn cael ei galw yn Cyfansoddiadau Llenyddol Buddugol 2008 a'r llall wrth yr enw Doniau Disglair gyda chynnyrch Medal y Dysgwyr, Y Gadair, Y Goron a'r Fedal Ddrama ynddi.
Yn hon hefyd mae beirniadaeth cystadleuaeth y prif gyfansoddwr gan godi'r cwestiwn faint fydd hi nes cymryd y cam naturiol nesaf o gynnwys gwaith y cyfansoddwr arobryn ar ddisgen fel bo pawb yn cael ei werthfawrogi yntau hefyd.
Dymuniad bardd
Cymerodd ddiwrnod neu ddau wedi'r cadeirio cyn i'r rhan fwyaf gofio mai ar donfeddi 成人论坛 Radio Cymru y gofynnodd yr enillydd i'w gariad ei briodi!Yr oedd hynny fis Ionawr pan oedd Iwan Rhys yn fardd yr wythnos a manteisio ar y cyfle i ofyn i Angharad Hewitson ei briodi.
A hithau'n cytuno a byddant yn priodi yng Nghaergybi fis Hydref.
Mae hyn, does bosib, yn cyfiawnhau disgrifio Iwan fel bardd serch neu'n un o'r beirdd rhamantus!
Y dychweledig
Mae'r hen chwedl yn gwbl glir - y dychwelai Arthur.
Ac yn hanes yr Urdd mae hynny ar fin digwydd.
S么n yr ydym am y cwch 'Y Brenin Arthur' yng ngwersyll yr Urdd Glan-llyn y disgwylir ei weld yn hwylio Llyn Tegid unwaith eto cyn diwedd y flwyddyn.
Ar un adeg yr oedd Brenin Arthur a Glan-llyn yn gyfystyr gan mai un o'r pethau cyntaf a wnaeth Syr Ifan ab Owen Edwards ar 么l agor y gwersyll yn 1950 oedd prynu cwch modur mawr a allai gario deugain o bobl.
Yr oedd yn atyniad poblogaidd ac yn ogystal a thripiau ar y llyn y Brenin Arthur fyddai'n cludo gwersyllwyr o orsaf drenau Llangywer i'r gwersyll gyferbyn.
Cychwyn gwych i unrhyw wyliau!
Erbyn 1967 dirywiodd cyflwr y cwch gymaint bu'n rhaid prynu Brenin Arthur II ond erbyn Wythdegau'r ganrif ddiwethaf bu'n rhaid tynnu hwnnw oddi ar y d诺r hefyd.
Er iddo brofi adferiad am gyfnod ddechrau'r ganrif hon neilltuo i gwt cwch fu'n rhaid iddo.
Erbyn hyn, fodd bynnag, diolch i grant gan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwn mae'r Brenin, wedi cyfnod mewn iard longau ym Mangor, yn barod am waith unwaith eto a hen draddodiad digon rhamantus wedi ei adfer ac mae cynlluniau eto i gludo o Langywer - er nad yw'r orsaf honno mwyach yn rhan o'r gyfundrefn reilffyrdd go iawn.
Y wobr fwyaf
Does dim dadl mai cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn yn y Gelli Gandryll a gafodd y sylw mwyaf o gystadlaethau'r wythnos hon.
Ond fe fu gwobrwyo llyfr y flwyddyn arall. Yn Eisteddfod yr Urdd pan gyflwynwyd un o wobrau Tir na n-Og i Gareth F Williams am ei nofel ragorol, Eira M芒n - eira Mawr
A phan ofynnwyd iddo beth oedd ei hennill yn ei olygu dywedodd;
"Llawer iawn - er bod awduron yn greaduriaid swil, mae cael gwerthfawrogiad o'r fath yn rhoi hwb anferth i ni fwrw iddi ac ysgrifennu rhagor."
Ac wrth gael ei holi ar 成人论坛 Radio Cymru dywedodd y byddai'r wobr hon am lyfr plant yn golygu mwy iddo nag y byddai hyd yn oed ennill Llyfr y Flwyddyn.
Tybed a ddaw honno hefyd i'w ran yn y dyfodol?
Roconwyth
cafodd aelodau'r wasg a'r cyfryngau damaid o india roc pinc go arbennig y dydd o'r blaen.
Un gyda'r geiriau 'Conwy 2008' yn rhedeg drwyddo er mwyn tynnu sylw at CD RoCon 08 a drefnwyd gan Derfel Thomas i godi arian at yr Eisteddfod.
A'r CD hon gyda'i chyfuniad o artistiaid cenedlaethol a lleol yw'r unig ffordd i gael copi o g芒n Subbuteo gan Brigyn.