|
|
|
| | © NTPL/Rupert Truman |
| | |
|
|
Wedi ei gynllunio gan Thomas Webb, cafodd y ty gwreiddiol ei orffen ym 1687, wedi iddo gael ei adeiladu i Joshua Edisbury, Uchel Siryf Sir Ddinbych. Yn fuan ar ôl iddo gael ei gwblhau bu'n rhaid i Mr Edisbury adael yr eiddo wedi iddo'i gael yn euog o ladrata. Cafodd yr adeilad wedyn ei werthu i (1665-1733), Meistr y Siawnsri ym 1718.
Ymestynnodd ac addurnodd John Mellor Erddig, ac ar ei farwolaeth fe aeth yr ystâd i'w nai, Simon Yorke, cyn i'r ty gael ei basio i lawr drwy'r teulu Yorke nes iddo gael ei drosglwyddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym 1973. Mae rhai o'r pethau a brynwyd gan John Mellor yn dal i addurno'r ty hyd heddiw; gellir gweld y gorau yn y Salwn, Ystafell y Tapestri a'r Prif Ystafell Wely.
Roedd y ty gwreiddiol, sy'n ffurfio naw bae canolog Erddig, yn sgwâr ac yn weddol ddiaddurn. Ychwanegwyd esgyll yn y 1720au, ac er mwyn ei amddiffyn rhag cael ei effeithio gan y tywydd, ychwanegwyd wyneb o garreg i'r ffrynt Orllewinol yn y 1770au. Yn cael ei ystyried yn weddol blaen yn bensaernïol, mae'r dodrefn y tu fewn i'r ty yn wych, yn dyddio o 1720-26 a chawsant eu gwneud gan wneuthurwyr celfi a chrefftwyr o Lundain.
| Print this page |
| | | |
Mae Rhyngweithio yn adran ar eich cyfer chi. Ymunwch â'r gymuned - anfonwch eich erthyglau, sgwrsiwch, a dywedwch wrthyn ni beth mae 'treftadaeth' yn ei olygu lle 'rydych chi'n byw.
Ewch i Ryngweithio > |
| | |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Nid yw'r 成人论坛 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|