|
|
|
| | | | |
Neuadd Brangwyn, Abertawe - Cartref Paneli'r Ymerodraeth Brydeinig |
|
O Lundain i Abertawe
Ym 1933, pan oedd y Guildhall yn cael ei adeiladu a sylfeini'r Neuadd ymgynnull yn cael eu gosod, gwnaed cyhoeddiad gan ymddiriedolwyr yr Arglwydd Iveagh bod y 16 o baneli a baentiwyd gan Frank Brangwyn, yr artist rhyngwladol, yn cael ei roi i fwrdeistref neu gorff fyddai'n gallu eu cartrefu a'u harddangos.
Ym 1924, penderfynodd yr Arglwydd Iveagh i ddarparu cofadail i'r rhai o'u plith a laddwyd yn y rhyfel, gan dalu amdano ei hun ac ar ran Arglwyddi'r Deyrnas. Byddai'r cofadail yn baentiad ar fur, mewn paneli, gan orchuddio arwynebedd o 3,000 troedfedd sgwâr i gyd, i'w roi yn yr Oriel Frenhinol yn Nhy'r Arglwyddi.
Gweithiodd Brangwyn ar y golygfeydd rhyfel o 1925-26, ond penderfynodd ef a'i noddwr eu bod eisiau rhywbeth mwy optimistaidd. O'r herwydd rhoddwyd y golygfeydd rhyfel o'r neilltu (maen nhw nawr yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru Caerdydd), ac ailddechreuodd Brangwyn ar y gyfres gyda 'phanorama synthetig o harddwch Prydain Fawr ... [i ddangos] yr hyn y bu Lluoedd yr Ymerodraeth yn brwydro drosto.'
Daeth thema'r paneli i fod yn bobloedd a chynnyrch yr Ymerodraeth nodedig, a oedd wedi cefnogi Prydain yn ffyddlon yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Dywedodd Brangwyn am ei waith: 'Yr Ymerodraeth yw fy thema, yn ei holl rwysg a'i adnoddau niferus, gan fy mod i'n ystyried mai dyma'r coffâd mwyaf addas.' Mae'r golygfeydd o jyngl toreithiog lliwgar â ysbryd ffantasi, wedi ei ysbrydoli'n artistig gan ei deithiau niferus a thrwy astudio'r anifeiliaid yn So Llundain.
| Print this page |
| | | |
Mae Rhyngweithio yn adran ar eich cyfer chi. Ymunwch â'r gymuned - anfonwch eich erthyglau, sgwrsiwch, a dywedwch wrthyn ni beth mae 'treftadaeth' yn ei olygu lle 'rydych chi'n byw.
Ewch i Ryngweithio > |
| | |
|
|
|
|
Nid yw'r 成人论坛 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol. |
| | |
| | |
| |
|