Main content

Cerddi Rownd 2

Trydargerdd: Neges i Ddilynwyr

Gwylliaid Cochion y Llew

Chwi holl Wylliad,o dewch da chi
Fel un,yn llawn o hyder,
I achub cam ein tylwyth ni
Fe gerddwn "dros yr aber"

Iwan Parri - 8

Dros yr Aber

Fel Ysgrifennydd Gwladol,
â balchder yn fy mrest,
ailenwi Cymru gyfan
a wnaf yn Bristol West.

Iwan Rhys – 8.5

Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘dwyn’

Gwylliaid Cochion y Llew

Dawn un gair yw dwyn i go'
lun o'r dyn nad yw yno.

Gwerfyl Price – 9.5

Dros yr Aber

Y dwyn nad yw ‘ond unwaith’
sy’n gosod sail i’r ail waith.

Carwyn Eckley – 9.5

Limrig yn cynnwys y llinell ‘Hedfanais ar frys i Awstralia’

Gwylliaid Cochion y Llew

“Hedfanais ar frys i Awstral ia
Ma raid mynd ar sbid yn y plên ia”
Medda Kevin y Cofi,
“Chos sa chdi yn slofi
Sa graf’ti yn gneud ti ddod lawr ia.”

Pryderi Jones - 9

Dros yr Aber

 bwnsiad o flodau azalea,
hedfanais ar frys i Ostrêilia
at ferch o Syr Hugh,
ond jest cyn cael rhyw,
fe’i llyncwyd yn fyw. Crocodeil, ia.

Rhys Iorwerth – 9

Cerdd ar fesur yr englyn penfyr (dim mwy na 15 llinell): Marchnad

Gwylliaid Cochion y Llew

Eidion tew y ddôl dan t欧 – yn burion
O barod i’w gwerthu;
Fe eir am y ffair ‘fory.

Eu cefnau fel byrddau bob un; - i odre’r
Ogof lladron wedyn,
Ac i gyffro’r ogo’i hun.

Deuddeg o wartheg i’w hawr – i ganol
Y bargeinion drudfawr,
A’u danfon drwy’r glwyd enfawr.

Ar feudy o frefiadau – synau gwâr
Ei synagog yntau
Ffeiriodd nodd ei hoff erwau.

Rhith o elw’r morthwylio – a brofodd;
Bu i’r afiaith gydio
A neud ei waith ‘n ei waed o.

Arwyn Groe - 9

Dros yr Aber

Hefo’i fwgwd o hwdi, deuai’r boi’n
frwd i’r bar i’n poeni
gan ddangos min nos i ni,

bob yn un, lafur ei bnawn; ei rycsac
racsiog eto’n orlawn
o’i hoff gêr, o stwff ‘go iawn’:

jacet ddel (a’r label o hyd yn sownd),
sbecs haul difrycheulyd,
neu ar dro, oriorau drud.

Â’n dwylo glân, dosbarth canol, cael hwyl
hefo’r clown bach gwibiol,
taer a wnaem; yntau’n troi ’nôl

yn strae i felin y stryd, yna ar jans,
i’r jêl. Ond mae’r hyfryd
Swiss Watch gen i’n sioe o hyd.

Rhys Iorwerth – 9.5

Pennill Mawl neu Ddychan: Beiciwr/aig neu Beicwyr

Gwylliaid Cochion y Llew

Mae o’n gywydd mawl i’r leicra
Ei gêr sydd gyda’r gora’,
Wrth ddringo ‘r Bwlch rhaid saethu fflêrs -
Mae’r gers ‘di mynd o’i goesa’.

Mair Tomos Ifans - 8.5

Dros yr Aber

Mae’i ledar bygythiol
a’i fol a’i fwstásh
a’i wallt lawr i’w arffed
a’i helmed rhag crash,
a’i holl dat诺s sgêri
a’i Harley mawr fflash
i gyd braidd yn ofer
mewn coler whip-lash.

Marged Tudur - 8

Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Twyllo

Gwylliaid Cochion y Llew

Roedd bywyd yn ddiflas roedd bywyd yn fflat
Uchafbwynt pob wythnos oedd newid fy mrat,

Pob sgwrs efo’r gwr yn hesb ers cyn co
Dim sôn am ddawnsio, aeth y ffidil i’r to,

Ei syniad o ramant ? Jogio rownd parc !
Be’ro’n i i angen oedd mymryn o sbarc.

Felly un noson mi gliciais ar y we -
Uffar o stoncar, er fod o’n hwntw o’r de, -

Golygus ac ifanc, rhy ifanc mae’n siwr,
Ond pan drodd o’i fyny , roedd yn hyn na fy ngwr !

Roedd y nesa’ yn welliant, ei enw oedd Meic,
Uffarn o farf ac yn berchen moto beic,

Gyrrodd lun mewn ‘leathers’, methu credu’n lwc,
Ond pan drodd i fyny, roedd o’n dreifio twc-twc!

Tri chynnig i Gymraes yw fy moto i;
Newid proffeil eto, “ Dwi’n sengl a ffri !”

Ces fy licio, a chywydd, un secsi, gan fardd,
A dyma fi’n trefnu i’w gwarfod mewn bar -

Ddoe oedd hynny, ond mi es i o’ngho
Pan welais y “bardd” – fy ngwr i oedd o !

Mair Tomos Ifans - 9

Dros yr Aber

Yn rownd gynta’r Talwrn yn Neuadd Garth Garmon
Fe guron ni dîm o Wylliaid Cochion.

Ond er inni ddathlu ar y pryd,
Wele, mae'r diawliaid yma o hyd!

Fe ddylai fod yn drosedd crogadwy
Cogio bod dau dîm Talwrn ym Mawddwy,

A honni eu bod yn sgwennu'n y Llew,
Un 'rochor yma, ac un 'rochor drew.

(Ac onid twyll a thestun embaras
Yw galw rhyw bentref bach yn ddinas?)

Ond felna y bu'r hen Wylliaid erioed:
Dod mas i ymosod, cyn cuddio'n y coed,

Ac ailymddangos i ymosod drachefn
Heb ots am reolau a chyfraith a threfn.

Gwylliaid yw Gwylliaid yn y Llew,
Man a man galw rhaw yn 'rhew'.

Os byddwn ni'n ffodus i'ch curo'r tro yma,
Fe wnawn ni eich disgwyl chi eto'r tro nesa,

A byddwn yn barod am dactegau hyll
Trydydd tîm Dinas Mawddwy: Llewod Cochion y Gwyll.

Iwan Rhys – 10

Ateb Llinell ar y pryd: Taniwn o hyd eto’n ôl

Gwylliaid Cochion y Llew

Wych Wylliaid yn iach hollol
Taniwn o hyd eto’n ôl

0.5

Dros yr Aber

Yn Syria yn amserol
Taniwn o hyd eto’n ôl

Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Cadwyn

Gwylliaid Cochion y Llew

Daeth o’r pridd, wrth balu’r ardd,
Yn ddu, ddu;
Prin ddwsin o ddolenni pres yn cydio’n dynn;
Sgwrio. Rhwbio. Polshio.
Balchder y sglein yn gloywi llygaid.
Bu’n gwenu am ddegawdau
Ger y tân
Yng nghwmni’r ladis tlws a’r clocsie bach,
Nid oedd i’r cadwyn hwn na swydd na phwys,
Ond roedd iddo stori.
Daeth i’m llaw, wrth glirio’r cwt,
Yn ddu, ddu
A’i ddolenni pres yn gwlwm oer,
Ac er nad oes i’r cadwyn hwn na swydd na phwys
Estynnais am y “ Brasso”,
Am fod iddo stori
A ddaeth o’r pridd wrth balu’r ardd.

Mair Tomos Ifans - 9.5

Dros yr Aber

I Gwenan, Einir, Anna, Dafydd, Gareth, John, Gwyn, Nedw, Deio, Ifan, Siôn Ifan, Siôn Dorkins a Siôn Llewelyn; Mawrth 2018

Rhoddwyd y fleece ddu i dannu ar y lein,
diflannodd cusanau’r haul o ledr yr esgidiau cerdded
a dadbaciwyd tair wythnos yn daclus i ddroriau.
Ond â chwsg ar gyfeiliorn,
daw eich lleisiau i’r gwyll
fel s诺n fflagiau gweddi’n chwipio ar y gwynt
a gwelaf freichled y copaon eto;
lle mae Duw wedi crafu’i rasal ar y llethrau,
lle mae’r meirw’n byw dan gynfasau’r eira
a thros erchwyn y pontydd crog
mae darn bach o enaid pawb
yn gwlychu traed yn Dudh Khosi
ac yn rhannu cyfrinachau â Sagarmãthã.
Drwy’r bore bach
dilynaf amlinelliad eich cefnau
ac ôl eich gwadnau yn y llwch
a daw mân afalansiau i’r galon.

Marged Tudur - 9.5

Englyn: Llawdriniaeth

Gwylliaid Cochion y Llew

Ei gymell â phwyll ei gamau egwan
Wrth agor y dorau
I’r iaith sy’n daith i ni’n dau
I orwel iach ei eiriau.

Iwan Parri - 9

Dros yr Aber

Flwyddyn wedyn, ’dwi ddim nes at faddau
i’r twit-feddyg iwsles.
Yn 诺r hardd, i gysgu’r es
a dihuno fel dynes.

Carwyn Eckley – 9.5

Gwylliaid Cochion y Llew - 72
Dros yr Aber – 73.5