Cerddi Rownd 2
Trydargerdd: Cywiriad i Fwydlen
Beirdd Myrddin
Nid oes neb yn gallu cyfri
Losin du yn nhref Cydweli,
Ond cymaint mwy na gwers rhifyddeg,
Yw deall gwerth rhoi un yn 'chwaneg.
Aled Evans – 8.5
Y C诺ps
Newidier y 'cawl diferiad', - y 'mwng'
Am y 'main' sy'n llithriad,
Yna, mae'r 'banana bad'
Yn eglur yn mo'yn treiglad.
Iwan Bryn James - 8.5
Cwpled caeth yn cynnwys y gair ‘neu’
Beirdd Myrddin
Beth ddaw it o’r Brexit brau
adenydd neu gadwynau?
Lowri Lloyd - 9
Y C诺ps
Yn Sarn neu ’Nghalamazoo
Daw i bobun wneud bwbw.
Huw Meirion Edwards - 9
Limrig ‘Gwell cysgu ar wellt nag ar lawr’
Beirdd Myrddin
Gwell cysgu ar wellt nag ar lawr,
Gwell corrach yn gwmni na chawr,
A gwell enwi pont,
Ar ôl lleian o Nantes,
Na'i henwi rôl boi clustiau mawr.
Ann Lewis – 8.5
Y C诺ps
‘Gwell cysgu ar wellt nac ar lawr,’
Medda Huw wrth Jac ei frawd mawr,
‘Ydy’, medd Jac
Wrth godi ei bac,
‘Ond well gen i fatras am nawr.’
Arwel Rocet Jones – 8
Cerdd ar fesur yr englyn penfyr (dim mwy na 15 llinell): Stryd
Beirdd Myrddin
Adfeilion Abereiddi
Mewn un cae mae meini co’ a’u halaw
dros yr heli’n eco,
yn yngan doeau ango’.
Drwy’r alaw y daw’r aelwyd i mi’n fyw,
i mi’n fwy na breuddwyd;
heno lliw yw’r haenau llwyd.
Daw’r yngan cu i’m suo, drwy'r eithin
daw rhyw iaith i'm swyno
eilwaith trwy'r holl adfeilio.
 dymuniad y meini mae egin
yn mygu’r mieri,
wylo llon yw hawl y lli.
Yng ngolud yr un funud fach - oedaf
gan gadw cyfrinach
hiraeth eu doeau’n hirach.
Lowri Lloyd - 9
Y C诺ps
Ar ôl ymweld yn ddiweddar â dinas Belfast
A Ionawr oer, llaith fel brag, – yn ein mêr,
Ry’n ni’n mynd beth bynnag,
Mynnu taith o Stormont wag
I orllewin y ddinas; – ar y ffordd
I’r Falls, tir neb diflas
Yn ildio’i le i lwyd-las
Y tai clòs a’r giatiau clo; – llonyddwch
Y lle’n waedd ar ffrwydro
Wrth ddal ei anal yno.
Hen fur y cof yn faricêd – hirach
Na llen ddur y pared
Gaea i mewn ddwy gymuned.
A phob murlun yn uno’n – un ynys,
Yn un cwmwl tystion
Ar y lôn laith, hirfaith hon.
Huw Meirion Edwards - 9.5
Pennill Mawl neu Ddychan: Gwirfoddolwr/aig neu Gwirfoddolwyr
Beirdd Myrddin
I Feirdd y Talwrn
Bob wythnos daw tinc yr awen
i swyno tonfeddi’r byd
a chlodforwn feirdd y Talwrn
am wneuthur hyn i gyd.
Ei wneud yn enw barddas,
er lles ein canu caeth,
er cadw'n fyw traddodiad
a chynnal baich ein hiaith.
Yn beiriannau creu cynghanedd,
yn englynwyr mawr o fri,
a hyn oll fel gwirfoddolwyr -
tan ddaw siec y 成人论坛.
Garmon Dyfri – 8.5
Y C诺ps
Ar ddeunaw cymdeithas mae'n gyd-ysgrifennydd,
Ar bymtheg elusen, efe yw'r trysorydd.
Ond chwalwyd ei freuddwyd drwy bleidlais cadeirydd:
Gwrthodwyd ei ethol i Gylch y Chwiorydd.
Geraint Williams – C诺ps – 8.5
Cân ysgafn (heb fod dros 20 o linellau a heb fod yn soned): Hacio
Mae ‘na dwym ac oer i Facebook, wel dyna 'mhrofiad i,
Weithiau’n agor drysau i’r hyn nas gwyddoch chi.
Yno cwrddais Stormy, un o blant yr Ysgol Sul,
Rhodd Mam ar flaen ei bysedd nes colli’r Llwybr Cul.
Yno caf dabledi glas, a'r rheini'n bunt yr un,
Eu blas fel sudd ciwcwmbyr ond cymorth i’r to h欧n.
Rwy’n anfon cash i Lagos, er mwyn achub cefnder llwm
Sy'n sgwennu ata' i mewn Cymraeg fel yr un ar Bobol y Cwm.
Ond ni ddylech droedio’r fangre os nad y’ch ddoeth a chall,
Rhag eich llyncu gorff ac enaid gan ellyll Diawl y Fall.
Cans Boris a'i griw sy'n eich disgwyl i wybod amdanoch bob dim;
Eich bod yn aelod ffyddlon mewn capel a saith gym.
Eich bod yn danysgrifiwr i gylchgronau cinci glas
Fel Barn, Y Faner Newydd neu hyd yn oed Bardd As.
Eich bod yn ymddiddori mewn tueddiadau caeth,
Yn sgwennu ambell englyn - a weithiau pethau gwaeth.
A hwy a ddefnyddiasant y wybodaeth ar fy llw
I droi trueinyn fel myfi yn un ohonyn nhw.
Bryan Stephens - 9
Y C诺ps
Rhaid Hacio y Meuryn, achos waeth i chi be’
Mae chydig o dwyllo yn iawn yn ei le.
A wnaiff tim y Cwps, mi wyddom yn net,
Byth ennill y Talwrn trwy chwarae yn stret!
A hacio sydd raid (os am ennill peth clod)
Er mwyn cael darganfod pa dasgau sy’n dod.
Caf gyngor gan Putin, mae ganddo fo’r nac
Drwy hacio, o wneud y Gorllewin yn grac.
Cyfrinair Ceri?. Rhaid wrth hwnnw’n ddi -ffael
Ble meddech, mae’r fath wybodaeth i’w gael?
A’i ‘Gwaddol’ a’i ‘ LLoches’ neu a’i ‘Yn y Gwaed’?
Er chwilio yn ddyfal, rwyn ofni nas caed.
Ydy, mae’i amddiffynfa yn gryf fel y graig,
Nawr beth am enw morwynol ei wraig?...
Do fe graciais y cod, ond och beth wyf well,
Gall y cyfan olygu blynyddoedd mewn cell.
A rhaid yw cyfaddef, er cymaint y trwbwl
Na ddeuthum ar draws unrhyw dasgau o gwbwl.
Dim ond cyfri banc! O’i weld cefais wobl,
Pwy feddyliai fod Meuryn yn cael cyflog mor nobl?
Dafydd Morgan Lewis - 9
Llinell ar y pryd: Nid yw hyn yn hollol deg
Beirdd Myrddin
Chwenych ryw un yn chwaneg
Nid yw hyn yn hollol deg
Y C诺ps
Nid yw hyn yn hollol deg
Ein gyrru i Dalgarreg
0.5
Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Drwm
Beirdd Myrddin
Ar hyd y lôn daw hanes yn darannau,
ei wyntoedd llym yn hel cawodydd glaw;
a dim ond cof sy'n cymell hynt y camau,
rhyw gof na 诺yr yn iawn beth yw'r pendraw.
Daw'r ffeiffs a'r dryms i gynnal marts yr undeb
gan dawelu cân yfory yng nghur ddoe.
A choch a gwyn a glas yw lliw casineb
pob baner lipa sy'n addurno'r sioe.
Ond rhywle yn y gwyll mae plant yn chwarae,
yn cicio pêl a'u lleisiau'n rhai pob lliw,
heb barch at ffin na 'chwaith at hanes gwarchae
gan wybod bod eu gwên yn gwella briw.
Curiadau'u traed sydd eto'n dangos bod
Yfory'n ddawns ar hyd y Shankill Road.
Aled Evans – 9.5
Y C诺ps
Mae diferion machlud arall, mi wn,
yn peri eto blygu glin, a gwaed
y dydd yn methu iro llwnc. Pob gwn
yn llonydd bellach, am y tro, a’r traed
yn gorffwys. Fe ddaw rhai o hyd fan hyn
at allor fechan, brudd: baneri, drwm,
ar dwmpath bach o gerrig; pawb yn syn,
yn chwilio geiriau i’w gweddïau crwm.
Mae yma sawl cydwybod, a sawl gradd,
a’r dagrau sychion, tawel yn y fron,
fel s诺n emyn, s诺n litanïau lladd
y machlud newydd hwn, yr ennyd hon.
Mae awel ysgafn eto’n crafu’r drwm,
a’i gryndod sy’n byddaru’r cwmni llwm.
Dafydd John Pritchard – 10
Englyn i unrhyw wyddonydd
Beirdd Myrddin
Stephen Hawking
Y sêr oedd dy leferydd, a'u hidiom
yn dy hudo beunydd,
hwythau y sêr, a'u hiaith sydd
heno i ti'n adenydd.
Aled Evans – 9.5
Y C诺ps
Tu hwnt i nam y corff cam, caeth, – tu hwnt
I haint a negyddiaeth,
Drwy wneud twll du’n dirnadaeth
Yn llachar wyn, esgyn wnaeth.
Huw Meirion Edwards 9.5