Main content
Dyw'r rhaglen yma ddim ar gael ar hyn o bryd

Galar gyda Noel James: Marwolaeth

Taith y digrifwr Noel James i ddysgu mwy am farwolaeth a galar. Comedian Noel James’ journey to learn about death and grief.

Pan oedd y digrifwr Noel James yn 20 oed ac yn astudio yn y coleg cafodd alwad gan ei dad yn dweud wrtho am farwolaeth ei fam.

Ers hynny mae wedi pendroni llawer am y profiad o golli rhywun agos atoch ac am beth yn union yw galar. Ydy e wedi galaru yn iawn am ei fam?

Mae Noel yn mynd ar daith i chwilio am atebion i'w gwestiynau, gan sgwrsio gyda ffrindiau ac arbenigwyr yn ogystal a chymryd golwg ar arferion galaru o’r gorffennol ac mewn diwylliannau eraill.

Yn y rhaglen gyntaf mae Noel yn mynd ar drywydd y dirgelwch mwya’ - beth sy’n digwydd ar ôl i ni farw?

Cynhyrchwyd gan gwmni Silin.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Maw 25 Chwef 2020 18:30

Darllediadau

  • Sul 9 Chwef 2020 16:00
  • Maw 25 Chwef 2020 18:30