Main content
Dyw'r rhaglen yma ddim ar gael ar hyn o bryd

Galar gyda Noel James: Y broses o alaru

Taith y digrifwr Noel James i ddysgu mwy am farwolaeth a galar. Comedian Noel James’ journey to learn about death and grief.

Pan oedd y digrifwr Noel James yn 20 oed ac yn astudio yn y coleg cafodd alwad gan ei dad yn dweud wrtho am farwolaeth ei fam.

Ers hynny mae wedi pendroni llawer am y profiad o golli rhywun agos atoch ac am beth yn union yw galar. Ydy e wedi galaru yn iawn am ei fam?

Mae Noel yn mynd ar daith i chwilio am atebion i'w gwestiynau, gan sgwrsio gyda ffrindiau ac arbenigwyr yn ogystal a chymryd golwg ar arferion galaru o’r gorffennol ac mewn diwylliannau eraill.

Yn yr ail raglen mae Noel yn ceisio deall beth yn union yw galar.

Cynhyrchwyd gan gwmni Silin.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 16 Chwef 2020 16:00

Darllediad

  • Sul 16 Chwef 2020 16:00