Fel un o sipsiwn T. Llew Jones yn Tan ar y Comin-' dwi ar y ffordd unwaith eto Fe ail gychwynnodd y teithio ddoe yn ysgol T. Llew Jones, ym Mlaenhoffnant, lle buo ni'n dathlu bywyd a gwaith awdur mwya' poblogaidd plant Cymru.
Dyma englyn ysgrifennwyd gan y Prifardd Idris Reynolds yn arbennig ar gyfer y diwrnod:
Weithiau fe fydd lleisiau'r lli- a'r ogof
O gragen yn codi
A'r môr yn adrodd stori
Y mannau hallt o'i mewn hi.
Yr wythnos nesaf, fe fyddaf yn anelu trwyn y fan las i gyfeiriad y Gogledd, ond yn teithio yn ôl i'r gorffennol yr un pryd, i chwilio am sinemâu'r oes a fu, ac i olrhain peth o'i hanes.
'Pictiwrs Ddoe' fydd enw'r gyfres fydd i'w chlywed yn ystod rhaglen Nia yn y prynhawn, ac fe fydd Mici Plwm, fu'n actio efo Charlie Chaplin, medda nhw, yn ein cychwyn ar ein taith gan fod ganddo fo ddiddordeb angerddol yn hanes y sinemâu cynnar.
Yn ogystal ag ymweld â sinema Porthmadog, fe fydda i hefyd yn cael hanes 'Papur Dre' - papur Caernarfon a'r cylch a hefyd yn cyfarfod gitarydd o fri sy'n byw yn Llanberis ac wrth ei fodd yn gwneud modelau o awyrennau. Tydi bywyd yn ddifyr.
Os oes 'na straeon difyr yn eich ardal chi, gadewch i mi wybod drwy e-bost hywel@bbc.co.uk
Eisteddfodau Cenedlaethol, Llandeilo, Cwm Rhymni, Cricceth, Rhydaman, Y Bala, Aberafan, Y Rhyl. Be' 'di'r cysylltiad? Cliw? Bro Morgannwg. Ateb? Fe ataliwyd y Fedal Ryddiaeth ymhob un o'r Eistedfodau yna. Neu ac ategu geiriau'r Archdderwydd fe ellid dweud mai dim ond 7 gwaith mewn tri chwarter canrif ers sefydlu'r gystadleuaeth ym 1937, yr ataliwyd y wobr.
Mae'n bwysicach gwarchod safonau na chynal defod meddai'r Archdderwydd,
ac fe fyddai pawb yn cytuno. Ond, ac arall eirio Peilat 'Beth yw safon? Tydi safonau pawb ddim yr un fath. Tri o feirniaid uchel eu parch benderfynodd nad oedd teilyngdod yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaeth ddoe. Ond, mae 'na bosibilrwydd, petai tri beirniad arall wedi edrych ar yr un deunydd- y byddai teilyngdod.
Beth yw safon? Ac onid ydi hi'n wir fod na nofelau, a straeon byrion, awdlau, a phryddestau wedi cael eu gwobrwyo gan feirniad uchel eu parch, a ninnau, ar ôl eu darllen yn y cyfansoddiadau, neu eu prynnu ar ôl eu cyhoeddi, wedi gofyn, a oedda nhw'n deilwng o un o brif wobrau'r Eisteddfod.
Be' 'di safon? Wel, gan fy mod i'n awdurdod ar fwyd Indiaidd ( neu Bangladeshi i fod yn fanwl gywir) wedi ei fwyta'n rheolaidd ers dyddiau coleg, mi fedrai ddeud, heb flewyn ar fy nhafod, na darn o bopadom rhwng fy nanadd fod y bwyd Indiaidd ar faes y 'steddfod yn hynod o safonol, a blasus. Triwch y cyri kwrma, efo baji nionyn, ychydig o jytni a bara Nan. Mmmm! Pryd o fwyd sydd yn haeddu medal!
Ddoe ar y llwyfan fe grewyd hanes. Am y tro cyntaf erioed fe gyflwynwyd Tîm G.B. i'r gynuilleidfa, ac fe anrhydeddwyd yr aelod mwyaf blaenllaw o'r tîm hwnnw efo meda.
Meistr y ddefod oedd R. Alun Evans. Gŵr sy'n feistr ar bob defod mae o'n ei chyflwyno yn feistrolgar, llyfn, a llawn dychymyg. Fe gyfeiriodd at tîm GB cyn dechrau'r seremoni gan awgrymmu nad oedd rhaid i ni droi ein golygon i gyfeiriad Llundain er mwyn gweld ymdrech yn cael ei wobrwyo.
"Ar y llwyfan heddiw" medda fo " mae na unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirfoddol yn ei hardal leol, gyda phwyslais arbennig ar weithio gyda phobol ifanc ac mae hi yn GB, Great Britton" Cyfeirio roedd Alun ar Eirlys Britton anrhydeddwyd gyda medal Syr T.H.Parry Williams, am ei gwaith diflino yn ardal Pontypridd yn enwedig ym myd dawnsio gwerin.
Hi oedd un o brif sylfanwyr Dawnswyr Nantgarw, neu tim GB fel byddan nhw'n cael eu galw o hyn ymlaen, ac fe ddaeth y dawnswyr i'r llwyfan i gyfarch Eirlys. Moment i'w thrysori , mewn seremoni gofiadwy.
Gobeithio y cawn ni ddeud yr un peth ar ol y seremoni'r prynhawn yma, Seremoni'r Fedal Ryddiaeth. Fe ges i gyfle i gael golwg ar y fedal, ac un hardd ydi hi hefyd. Ar un ochor maen na lun merch ifanc yn cyrychioli'r awen, ac ar yr ochor arall, teitlau rhai o gyfryfolau pwysica'r iaith Gymraeg, Y Beibl, y Mabinogi, Llyfr y Tri Aderyn, Y Bardd Cwsg, a Rhys Lewis.
Sy'n ein harwain ni'n daclus at Daniel Owen, a chyfle i longyfarch Robat Gruffudd gwasg y Lolfa ar ei lwyddiant ddoe yn enill gwobr goffa Daniel Owen. Gyda llaw, mae na dipyn o son wedi bod o'r llwyfan, a sylw wedi cael ei roi i'r cwmniausy'n noddi'r gwahanol gystadleuthau,ond does na ddim gwirionedd yn y si fod Cwmni Costa, yn mynd i noddi'r Daniel Owen y flwyddyn nesa os wnaiff y Steddfod newid enw'r gystadleuaeth i "Gwobr Goffi Daniel Owen".