Jyst gofyn
Mae Dr Eurfyl ap Gwilym wedi bod yn amddiffyn cynlluniau gwariant Plaid Cymru. Fe fydd Llafur yn ysu i ddarganfod ffordd i'w herio. Fe fyddai googlio "Isoft" a phori ymchwiliadau pwyllgor cyfrifon cyhoeddus Ty'r Cyffredin yn bethau diddorol i'w gwneud.
SylwadauAnfon sylw
Da iawn Vaughan.... points i ti. Wyt ti'n cyfri'r munudau cyn i datganiad dod oddiwrth swyddog wasg Llafur.........Plaid's numbers guru can't count to 30 million......
Annheg Vaughan.
1) Oes yna unrhywun sydd yn priodoli problemau isoft yn uniongyrchol i Eurfyl ap Gwilym, neu Digby Jones o ran hynny - y ddau yn gyfarwyddwyr annibynnol o'r cwmni?
2) Sut mae hyn yn effeithio ar y dadleuon? Anghofiwch am y negesydd.
Beryg dy fod wedi agor giat y gwter yma