Pleidleisiau Post
Mae fy efaill-flogwraig Betsan wedi sgwennu yn fan hyn am rai o'r sibrydion sy'n ein cyrraedd ynglyn â phleidleisiau post. Gan fy mod yn sicr fod pawb sy'n darllen y blog yma hefyd yn darllen un Betsan wnai ddim o'u hail-adrodd. Ond mae na ambell i un arall wedi ein cyrraedd; sôn, er engraifft, bod pleidlais Plaid Cymru ym Môn ddeg y cant yn uwch ar y rhestr nac yn y bleidlais etholaethol (ffarmwrs yn fotio Rogers/Wigley efallai). Mae sawl ffyhonnell wedi cadarnhau sibrydion Betsan ynglyn â Gogledd Caerdydd gydag un yn ychwanegu "os oedd yna unrhyw amheuaeth fe fyddai Cameron wedi mynd yno yn hytrach na'r Fro Ddydd Gwener". Ym mha un o etholaethau'r Gogledd fydd Dave yfory tybed- a beth mae hynny'n ei ddweud?
SylwadauAnfon sylw
Ynrhyw syniad ynglyn a'r union ganrannau?
nac oes... ond dim awgrym bod na sioc ar yr ochr etholaethol
"ond dim" ynteu "dim ond"?! Siawns bod hyn yn newyddion da i Wigley felly.
Dwi'n clywed fod pleidleisiau post yn Wrecsam yn dangos cynnydd i Blaid Cymru ond dwi ddim yn siwr mae cynnydd yn y rhanbarth neu yr etholaeth ydy hyn, y son ydy fod y Blaid yn derbyn tua 11% o'r pleidleisiau.