Draw dros yr enfys
Dyna ni felly. Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi penderfynnu mai'r "enfys" yw eu dewis nhw. Os ydy Ieuan eisiau bod yn Brif Weinidog Cymru mae'r ffordd o'i flaen yn glir. Pwy fase wedi meddwl hynny bedair blynedd yn ol?
Fe fyddaf yn sgwennu llawer mwy am hyn yfory.
SylwadauAnfon sylw
Sefyllfa anhygoel( ac hanesyddol) Dipyn o coup i ddweud i gwir. Y mae'r grwp Llafur wedi bod llawer rhy llwythgar a mewnblyg i sylweddoli natur y wleidyddiaeth newydd yng Nhymryu ac wedi diystyrru yn llwyr gallu y pleidiau eraill i cyd weithio. Dwi'n credu bod cymedroldeb Bourne yn hyn yn allweddol. Roedd yr iaith cas ac haerllug defnyddir gan rhai aelodau Llafur ynglyn ar plediau eraill- dal trwyn ac ati- yn siarad cyfrolau am agwedd rhai yn Llafur. Gyda llaw oedd coverage ITV ar Waterfront neithiwr yn llawer gwell na Dragons Eye.