Sibrydion....a sylwadau
Mae fy mhen i'n troi! Dw i'n clywed gymaint o wahanol straeon a sibrydion gyda nifer ohonynt yn gwrthddweud ei gilydd.
Heb unrhyw ymgais i'w dadansoddi dyma gasgliad ohonynt
"Wythnos yn ôl fe fyddwn wedi chwerthin ar ben y syniad o Ieuan fel Prif Weinidog...erbyn hyn dw i wedi newid fy meddwl. Fe fyddai unrhyw gytundeb â Llafur yn gwbwl annerbyniol i'r blaid"- AC Dem. Rhydd.
"Yr unig gwestiwn yw ydyn ni am fynd am yr enfys nawr neu aros am chwe mis a chwilio am esgus?"- AC Ceidwadol"
" Mae'r aelodau Llafur yn teimlo'n llawer mwy hyderus erbyn hyn... 'dw i'n meddwl y gall Mike German ddarbwyllo'i blaid i gefnogi Llafur" AC Llafur.
Ble mae Karl Williams...mae angen bwci i weithio hwn mas!
A chan bobol y gellir eu henwi
"Mi fedra i gadarnhâu ein bod yn trafod ffurfio Llywodraeth â Phlaid Cymru... ond fe fyddai'n rhaid cael aelodau Ceidwadol yn y cabinet."- Nick Bourne
" Mae'n rhaid i'r Democratiaid Rhyddfrydol benderfynu. Ydyn nhw eisiau dylanwad dros lywodraeth Lafur neu ydyn nhw'n dymuno rhoi dyfodol gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn nwylo'r Torïaid" -Peter Hain
SylwadauAnfon sylw
Os ydyw'r Cymry'n galli cael 'clymblaid enfys' mae rhaid gofyn y cwestiwn pan na fyddai 'Labour' wedi cymryd y siawns i ffurfio 'Rainbow Coalition' yn yr Alban ?
Fel byddai'r Saeson yn dweud 'What's sauce for the goose, is sauce for the one-legged swan'..
Neu rhywbeth fel 'na..
Rwy’n mynd i ddweud yr un peth hyd syrffed – does dim pot o aur yn mynd i fod ym mhen draw unrhyw glymblaid enfys – byddai pleidiau’r fath enfys yn rhy wahanol i’w gilydd. Mae mwyafrif y rhai a fentrodd allan wedi pleidleisio, rywsut neu’i gilydd, dros lywodraeth ar y chwith, felly mae’n hen bryd i Lafur a Phlaid Cymru ddod i gytundeb a ffurfio llywodraeth gref, gredadwy, sy’n mynd i bara’r cwrs o 4 blynedd heb gael ei dymchwel yng nghanol tymor.
nodwydd dal heb neidio o'i rhych gyda Peter Hain, felly? Mae ffactor 'sioc' y neges yn dechrau pylu braidd!