Sibrydion Sul
Ddoe oedd fy niwrnod cyntaf i ffwrdd o'r gwaith ers dros fis. Nid fy mod yn cwyno dw i'n dwlu ar etholiadau a byswn i ddim eisiau colli eiliad!
Mae'n amhosib dianc rhag y sibrydion a'r clecs serch hynny mae'r sibrwd y penwythnos hwn yn awgrymu’n gryf fod y posibilrwydd o lywodraeth glymblaid rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn prysur ddiflannu. Yr hen "opsiwn Seland Newydd" yna sy dan ystyriaeth nawr. Gan fod Llafur eisoes wedi sicrhâu cyllideb eleni y gobaith yw y gallai'r blaid lywodraethu fel lleiafrif am y flwyddyn nesa o leiaf gyda'r pleidiau yn ail-ystyried y sefyllfa ar ôl etholiadau lleol 2008.
Heddiw mae Mick Bates wedi awgrymu cytundeb tair neu hyd yn oed pedair plaid i lunio rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y cynulliad. Dw i ddim yn gweld y syniad yna yn cael ei groesawu gan y Torïaid. Maen nhw'n disgwyl yn eiddgar am ateb gan arweinydd Plaid Cymru i gwestiwn digon syml sef "ydy Ieuan Wyn Jones eisiau bod yn brif weinidog y cynulliad?". Gallai'r wobr honno fod o fewn ei gyrraedd os ydy e'n fodlon ei chymryd.