Ffrindiau fel rhain
"Os ydyn ni'n mynd mewn i Glymblaid a Llafur mae 'na beryg i ni gael ein beio am eu methiannau"
Rhodri Glyn Thomas (8/5/07)
"Pwy all fyth anghofio ymosodiad bwriadol enwog Saunders Lewis i losgi gwersyll hyfforddiant milwrol Pwllheli y noson cyn dechrau’r ail ryfel byd? Mae un arall o arweinwyr Plaid Cymru, Dafydd Iwan, y llywydd, wedi galw am ddiwedd i holl weithgarwch y fyddin, gan gynnwys hyfforddiant, yng Nghymru.
Pwy all anghofio’r llefarwraig ar gyfiawnder cymdeithasol, Leanne Wood yn galw am wahardd cynrychiolwyr y lluoedd arfog o ysgolion Cymru? Pe byddem wedi dilyn polisi Plaid, ni fyddem wedi bod yn sefyll dros Gymru; byddem wedi bod yn codi’r faner wen dros Gymru. Ble fyddem o ran y gwasanaeth awyr o’r gogledd i’r de o Gaerdydd i RAF y Fali y mae’r Llywodraeth yn ei gyflwyno? Mae’n debyg na ddylai Plaid Cymru, mewn gwirionedd, ei gefnogi gan ei fod wedi’i leoli ar safle amddiffyn."
Andrew Davies 1/2/07
"Mae'n bwysig wrth fynd mewn i'r etholiad bod neb yn meddwl "Os dw i'n pleidleisio i Lafur neu Blaid Cymru dw i'n cael yr un peth."
Ieuan Wyn Jones (3/4/07)
SylwadauAnfon sylw
Roedd Ieuan Wyn yn llygad ei le. Ni fydd unrhyw blaid sydd yn cymryd rhan mewn clymblaid yn gwneud yn union yr yn fath ac y byddai wedi ei wneud petae yn medru bwrw ymlaen heb droi at eraill am gymorth.
Bydd wrth gwrs nifer yn taflu bai ar y sawl sydd yn ymwneud a llywodraethu ond yr unig ffordd i osgoi hynny yw cadw mas o wleidyddiaeth yn y lle cyntaf.
Canlyniad da. Mae Rhodri a Ieuan wedi dod allan o hwn yn dda ac wedi gosod yr angen am sefydlogrwydd o flaen llwythgarwch pleidiol. Vaughan a wyt yn cytuno gyda fi yn hyn- er mwyn gwella'r obeithion o enill a cadw tu mewn i'r amserlen o 4 mlynedd fe fydd y referendwn yn cael ei gynnal yr un diwrnod ar etholiadau cynulliad nesaf?
Gareth,Dyna yw'r dyddiad mwyaf tebygol fe dybiwn i. Mae na fantais enfawr mewn gwenud hynny sef bod y nifer sy'n troi allan i bleidleisio yn etholiadau'r cynulliad llawer yn uwch yn yr ardaloedd wnaeth bleidleisio "Ie" yn 1997 nac yn ardaloedd "Na". Fe fyddai hynny;n fantais aruthrol i'r ochor "Ie".
Dyma'r tro cyntaf imi weld manylion yr hyn a ddywedwyd gan Andrew Davies, a'r ffaith syml amdani yw ei fod yn fy ngham-ddyfynnu yn llwyr.
Dydw i ddim yn hoffi gweld cymaint o dir (ac awyr) Cymru yn cael ei ddefnyddio gan y lluoedd arfog i "ymarfer", ac rwy'n gwrthwynebu'n llwyr y modd y meddiannwyd llefydd fel yr Epynt a Chwm Cain yn Nhrawsfynydd yn groes i ewyllys y trigolion a orfodwyd o'u cartrefi.
Ymateb yr oeddwn i gwestiwn ar Radio Wales yn gofyn beth fyddai'n digwydd i diroedd y fyddin Brydeinig pe bai Cymru'n annibynnol. Yr ateb mae'n debyg yw y byddai llywodraeth Cymru (fel y gwnaeth llywodraeth Cyprus annibynnol am wn i) yn negodi telerau newydd am y tir.
Mae'r honiad fy mod wedi dweud nad oes angen unrhyw hyfforddiant yn ffwlbri noeth. Byddai gan Gymru annibynnol luoedd fel sydd gan Iwerddon rydd i gyflawni ei dyletswyddau fel aelod o'r Cenhedloedd Unedig, ac i gyflawni eu gwaith fel lluoedd sifil, a byddai angen hyfforddiant o'r radd uchaf i'r lluoedd hynny.
Mae'r honiad am y Fali yn rhyfeddach fyth, gan fy mod i wedi dadlau'n gryf dros Faes Awyr Caernarfon fel y maes mwyaf addas ar gyfer unrhyw wasanaeth awyr De-Gogledd. Gan nad yw'r RAF yn defnyddio Caernarfon, byddai mynediad llawer rhwyddach a mwy hyblyg i'r safle.
Llongyfarchiadau ar y blog.