Wyn yn ymddeol
Mae'n ddiwrnod o ymadawiadau!
Mae'r Arglwydd (Wyn) Roberts o Gonwy wedi cyhoeddi ei fod am roi'r gorau i wasanaethu fel llefarydd y Ceidwadwyr ar Gymru yn Nhŷ’r Arglwyddi. Fe fu Wyn yn llefarydd Cymreig i'w blaid am dros ddeng mlynedd ar hugain sy'n record seneddol. Ef oedd yr unig weinidog i wasanaethu yn yr un adran trwy gydol llywodraethau Margaret Thatcher a John Major.
SylwadauAnfon sylw
Dim cweit trwy llywodraeth Major i gyd. Rwy'n credu ymddiswyddodd tua 1994.
Ond mae ei gyfnod o wasanaeth cyhoeddus yn anhygoel.
Bechod fod o wedi penderfynu mynd heddiw gan y bydd yr holl firi yn Llundain ac yng Nghaerdydd yn golygu na chaiff ei gyfraniad ei bwyso a mesur i'r graddau y mae'n ei haeddu. Ffigwr cymhleth, diddorol a gwirioneddol ddylanwadol.
Richard,
Fe wnaeth Wyn ddewis ei ddiwrnod yn fwriadol. Doedd e ddim eisiau unrhyw ffwdan mae'n debyg. Gobeithio y bydd S4C yn ail-ddarlledu y gyfres hynod amdano yn y dyfodol.