Bedydd Tân
Mae bod ar feinciau'r gwrthbleidiau yn gallu bod yn brofiad digon rwystredig ond mae na bris i dalu am fod mewn llywodraeth hefyd. Mae Elin Jones yn gwybod hynny nawr wrth iddi orfod rhoi'r gorau i'w gwyliau yn Seland Newydd a dychwelyd i Gymru i ddelio a'r posibilrwydd o achosion o glwy'r traed a gennau. Gobeithio'n wir na ddaw'r clwyf i Gymru- fe fyddai hynny'n fedydd tân go iawn.
Yn y cyfamser mae Ieuan yn gorfod delio a'r llu o gwynion am gyhyd y caewyd yr M4 yn sgil y ddamwain yng Nghasnewydd. O weinidogion Plaid Cymru dim ond Rhodri Glyn fydd yn weddol fodlon ei fyd. Mae'n debyg mai fe fydd y gweinidog cyntaf i allu ymweld a'r Eisteddfod gan wybod na fydd Dafydd Morgan Lewis neu Ffred Ffransis yn ei ddilyn o gwmpas y maes gan waeddi sloganau!
SylwadauAnfon sylw
Hmm... Ni ddylai rhodri glyn fod yn rhy ewn yn dilyn yr adroddiad yn golwg wythnos diwethaf. Bydd cymdeithas yr iaith yn cadw llygad barcud arno ac gwerth fyddai atgoffa pobl fod y gymdeithas wedi protestio a gweithredu yn erbyn y Blaid o,r blaen pan oeddde nhw'n rhannu pwer ar gyngor sir gar
C'mon Vaughan - blog ar sylwadau Dafydd Wigley os gweli di'n dda ???