成人论坛

Help / Cymorth
芦 Blaenorol | Hafan | Nesaf 禄

Gwenu at y Gwyrddion

Vaughan Roderick | 12:15, Dydd Gwener, 3 Awst 2007

Pan oeddwn yn grwt yn fy arddegau roeddwn yn hela cryn dipyn o amser yng Nghwm Gwaun. Roedd y Dyffryn Arms (Tafarn Bessie) yn rhan o'r atyniad ond roedd presenoldeb nifer o fewnfudwyr diddorol a difyr yn reswm arall dros fynd i'r ardal. I rai o bobol y cylch 鈥渂lydi hippies鈥 oedd y newydd-ddyfodiaid ond mewn gwirionedd roeddynt y llawer mwy na hynny.

Yn Fachongle Isaf roedd y diweddar John Seymour yn ffermio. John oedd sylfaenydd y mudiad hunan gynhaliaeth ac mae ei lyfr 鈥" o hyd yn Feibl i'r bobol rhamantus hynny sy'n prynu tyddyn yn y gobaith o fyw oddi ar y tir. Roedd hi'n ddigon hawdd gwneud sbort o syniadau John. Yn wir fe wnaeth y 成人论坛 hynny hyd syrffed yn y gyfres "The Good Life". Ond y dyddiau 'ma gyda'r holl s么n am bwysigrwydd bwyta bwyd iachus lleol efallai ei bod hi'n bryd i'r rhai oedd yn ei ddilorni ail feddwl.

Nid nepell i ffwrdd, lle mae Canolfan yr Urdd, Pentre Ifan heddiw roedd Satish Kumar yn cyhoeddi ei gylchgrawn . Satish oedd y person cyntaf erioed i gerdded o gwmpas y byd. Fe wnaeth hynny fel protest dros heddwch gan gerdded ar draws ffiniau'r rhyfel oer. Mae Satish wedi treulio ei fywyd yn ceisio llunio sylfaen athronyddol i'r mudiad amgylcheddol. Roedd Resurgence yn lwyfan pwysig i yr economegydd o Awstria oedd yn ysbrydoliaeth i Blaid Cymru a'r Blaid Werdd fel ei gilydd.

Gyda meddylwyr fel John a Saitish yn ymgartrefu yma yn y saithdegau a phrosiectau fel y Ganolfan Dechnoleg Amgen yn dewis Cymru fel cartref gellid dadlau mai fan hyn oedd man geni gwleidyddiaeth gwyrdd ym Mhrydain. Os felly mae'r babi wedi tyfu i fod yn grwt digon gwan a salw. Tra bod y Blaid Werdd wedi cael dipyn o lwyddiant yn Lloegr a'r Alban plaid ddigon di-nod yw hi yng Nghymru. Dim ond yng Ngheredigion ac Abertawe y mae hi wedi llwyddo i fwrw gwreiddiau gan ymladd etholiadau yn gyson, er yn aflwyddiannus.

Mewn erthygl yn "" mae Adam Price yn awgrymu y dylai Plaid Cymru ystyried cynghreirio gyda'r Gwyrddion yn yr etholiadau Ewropeaidd nesaf. Mae'n dadlau y gallai cynghrair o'r fath drechu Llafur yn yr etholiadau gan ennill dwy allan o'r pedair sedd Gymreig yn senedd Ewrop.

Mae'n wir bod cyfanswm pleidleisiau'r ddwy blaid yn fwy na'r cyfanswm Llafur yn etholiad Ewropeaidd 1999 ond doedd hynny ddim yn agos at fod yn wir yn 2004 ac er bod cynghrair rhwng y ddwy blaid wedi llwyddo yng Ngheredigion yn 1992 doedd pleidleisiau'r pleidiau efo'i gilydd ddim yn ddigon i drechu Screaming Lord Sutch yn is-etholiad Mynwy yn 1991.

Mae na broblemau eraill da'r syniad hefyd. Tra bod y Blaid Werdd yn yr Alban yn blaid annibynnol sy'n ffafrio annibyniaeth mae'r Blaid Werdd yng Nghymru yn rhan o blaid Cymru a Lloegr ac yn gwrthwynebu'r syniad o annibyniaeth. Mae na wahaniaethau sylfaenol eraill hefyd. Mae'r Blaid Werdd yn gwrthwynebu'r Undeb Ewropeaidd ar ei ffurf bresenol ac yn dymuno gweld diwedd ar dyfiant economaidd- safiadau sy'n gwbwl groes i safbwyntiau Plaid Cymru.

Os mai bwriad awgrym Adam Price ydy sicrhai aelod ychwanegol i gr诺p y Gwyrddion/EFA (y gr诺p yn Strasbourg y mae'r ddwy blaid yn aelodau ohono) yna digon teg. Ond os taw'r prif nod yw sicrh芒i bod Llafur yn colli ei hail sedd yng Nghymru mae na ffordd arall fyddai bron yn sicr o wneud hynny. Fe fyddai cynghrair rhwng Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol bron yn saff o ennill dwy allan o'r pedair sedd Gymreig. Dyw hynny ddim yn mynd i ddigwydd, wrth gwrs. Ar 么l profiadau'r misoedd diwethaf go brin y bydd unrhyw un am fentro cyrraedd cytundeb a phlaid y canol yn y dyfodol agos.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 16:09 ar 3 Awst 2007, ysgrifennodd D thoams:

    "Tra bod y Blaid Werdd yn yr Alban yn blaid annibynnol sy'n ffafrio annibyniaeth mae'r Blaid Werdd yng Nghymru yn rhan o blaid Cymru a Lloegr ac yn gwrthwynebu'r syniad o annibyniaeth."

    Yn wahanol i'r Alban, ai plaid i'r gwladychwyr yw'r gwyrddion yng Nghymru te? Edrych fel 'ny....

  • 2. Am 17:29 ar 3 Awst 2007, ysgrifennodd Anonymous:

    "Tra bod y Blaid Werdd yn yr Alban yn blaid annibynnol sy'n ffafrio annibyniaeth mae'r Blaid Werdd yng Nghymru yn rhan o blaid Cymru a Lloegr ac yn gwrthwynebu'r syniad o annibyniaeth."

    Er bod y Blaid Werdd yng Nghymru yn ran o Blaid Werdd Cymru a Lloegr mae'n hollol annibynnol lle mae ei pholisiau yn y cwestiwn ac mae hi o blaid annibyniaeth i Gymru fel yr eglurir yn y postiad yma (https://annibyniaeth.blogspot.com/2007/04/y-blaid-werdd-o-blaid-annibyniaeth-i.html)
    ar flog Annibyniaeth i Gymru

  • 3. Am 17:36 ar 3 Awst 2007, ysgrifennodd Elis Dafydd:

    "Tra bod y Blaid Werdd yn yr Alban yn blaid annibynnol sy'n ffafrio annibyniaeth mae'r Blaid Werdd yng Nghymru yn rhan o blaid Cymru a Lloegr ac yn gwrthwynebu'r syniad o annibyniaeth."

    Er bod y Blaid Werdd yng Nghymru yn ran o Blaid Werdd Cymru a Lloegr mae'n hollol annibynnol lle mae ei pholisiau yn y cwestiwn ac mae hi o blaid annibyniaeth i Gymru fel yr eglurir yn y postiad yma (https://annibyniaeth.blogspot.com/2007/04/y-blaid-werdd-o-blaid-annibyniaeth-i.html)
    ar flog Annibyniaeth i Gymru

  • 4. Am 19:43 ar 4 Awst 2007, ysgrifennodd D thoams:

    Diolch Elis Dafydd am fwrw oleuni ar y mater.

Mwy o鈥檙 blog hwn鈥

成人论坛 iD

Llywio drwy鈥檙 成人论坛

成人论坛 漏 2014 Nid yw'r 成人论坛 yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.