Adolygiad
Ar gais y Cyngor Llyfrau dw i wedi sgwennu adolygiad o gofiant Huw T. Edwards ar gyfer safle GWALES . Mae hwn yn llyfr hanfodol i ddilynwyr gwleidyddiaeth Cymru felly dw i'n siŵr na fydd y cyngor yn poennu os dw i'n ail-gyhoeddi'r adolygiad yn fan hyn! Mae'r llyfr ar gael o , wrth gwrs, neu o’ch siop leol.
Mae 'na ambell i ddegawd sy'n mynd yn angof i haneswyr a'r cyhoedd fel ei gilydd. Degawd felly yw pumdegau'r ganrif ddiwethaf, degawd a ystyrir yn rhyw egwyl ddi-liw rhwng erchyllterau'r pedwardegau a chwyldro cymdeithasol y chwedegau.
Y gwirionedd, wrth gwrs, yw fod pob degawd yn gosod sylfaen i'r hyn sydd i ddilyn, ac mae pob un ohonynt yn haeddu sylw. Yn y pumdegau yr enillodd Huw T. Edwards y teitl ‘Prif Weinidog Answyddogol Cymru’, a nod llyfr Gwyn Jenkins yw ailgyflwyno’r cymeriad allweddol a diddorol yma i'w gyd-Gymry.
Mae stori Huw T, ar adegau, yn darllen fel nofel, ac roedd ef ei hun yn hoff o ramantu yn ei chylch. Yn ystod ei fywyd tymhestlog fe fu'n löwr, yn chwarelwr, yn filwr ac yn was bach. Roedd hynny i gyd cyn iddo ddechrau ar ei fywyd cyhoeddus hyd yn oed.
Fel trefnydd y T&G yn y gogledd y daeth i amlygrwydd am y tro cyntaf fel person cyhoeddus. Ond roedd yn llawer mwy nag undebwr. Fel rhywun oedd ag un troed yn y mudiad Llafur a'r llall yn y byd Cymraeg, roedd e'n berson amlwg i gadeirio ac eistedd ar gyrff cyhoeddus. Roedd Huw T yn frenin ar y cwangos ddegawdau cyn i'r term hwnnw gael ei fathu.
Roedd rhan Huw T yn y frwydr dros ddatganoli yn un o'i gyfraniadau allweddol. Nid stori syml yw hon. Fel Cadeirydd Cyngor Cymru a Mynwy, roedd llais Huw T yn un pwysig. Ond person ‘ceisio am y posib’ oedd Huw T, ac ar y dechrau roedd yn ddigon llugoer ynglŷn â syniadau fel Senedd neu hyd yn oed Ysgrifennydd Gwladol i Gymru.
Yn y diwedd fe ddaeth yn gefnogwr brwd i'r syniad, gan gefnu ar y Blaid Lafur am gyfnod ac ymuno â Phlaid Cymru. Mewn cyfnod lle mae'r ddwy blaid honno mewn clymblaid yng Nghaerdydd, mae hanes Huw T yn taflu goleuni diddorol ar y berthynas rhyngddynt a'r tensiynau rhwng datganolwyr ac unoliaethwyr y Blaid Lafur – un o brif themâu gwleidyddiaeth Cymru hyd heddiw.
Mae'n amlwg o'r llyfr ei hun a’r ôl-nodiadau fod Gwyn Jenkins wedi cyflawni gwaith ymchwil trylwyr, nid yn unig wrth bori trwy bapurau, ond hefyd trwy holi cymeriadau fu’n rhan allweddol o fywyd Huw T. Mae ganddo hen ddigon o ddeunydd ar gyfer cofiant hir, academaidd. Ond mae'n amlwg nad hynny oedd ei fwriad fan hyn. Yn hytrach, trwy chwynnu'n drwyadl, mae wedi llwyddo i greu portread hynod ddarllenadwy o'i destun fydd yn apelio at unrhyw un sydd â'r diddordeb lleiaf yng ngwleidyddiaeth neu hanes diweddar Cymru.