³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Oriel yr anfarwolion

Vaughan Roderick | 12:00, Dydd Iau, 13 Medi 2007

Dw i'n edrych ymlaen at weld cofeb newydd Owain Glyndŵr yng Nghorwen. A barnu o'r lluniau mae'r cerflun yn un trawiadol. Mae'n sicr o fod yn well na'roedd yna o'r blaen!

Mae celf gyhoeddus yn ffasiynol iawn y dyddiau hyn ond mae rhai enghreifftiau’n fwy llwyddiannus nac eraill. Mae hwn yn farn gwbwl goddrychol wrth gwrs ond fy ffefryn personol i ymhlith y cerfluniau mwy diweddar yw cofeb Llywelyn ap Gruffydd Fychan yn Llanymddyfri.

Mae'r ym Mae Caerdydd ar y llaw arall yn beth echrydus. Mae'n ymddangos ei bod wedi ei greu o deils tŷ bach cyhoeddus a dw i ddim yn synnu bod y cynllunwyr wedi ei guddio y tu ôl i'r Eglwys Norwyeg!

Yn Neuadd Dinas Caerdydd mae "Casgliad Cerfluniau Cenedlaethol Cymru" sy'n dylunio arwyr Cymru. Cynhaliwyd cystadleuaeth i ddewis yr arwyr yng nghanol y rhyfel byd cyntaf. Ar y cyfan yr un fyddai’r dewisiadau heddiw Llywelyn ein llyw olaf, Dewi Sant, Hywel Dda ayb er fy mod yn amau bod Buddug ond wedi ei chynnwys er mwyn cael menyw a dw i'n amheus a fyddai'r Cadfridog Picton yn cael ei ddewis heddiw.

Pe bai na ychwanegiadau (ac mae na le i wneud hynny) pwy o'r ugeinfed ganrif fyddai'n cael ei ddewis tybed? Mae na groeso i chi awgrymmu!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:32 ar 13 Medi 2007, ysgrifennodd Helen:

    Gwynfor, heb os nac oni bai!

  • 2. Am 15:03 ar 13 Medi 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Zephaniah Williams - arwr !
    Gyda Llaw - beth oedd atebion y cwis chwareuon ?

  • 3. Am 15:14 ar 13 Medi 2007, ysgrifennodd Dilwyn:

    Heb amheuaeth: Alison Statton

  • 4. Am 18:08 ar 13 Medi 2007, ysgrifennodd vaughan:

    Dewi, Mae'r atebion i'w gweld yn y sylwadau sy'n dilyn y cwis. Diolch am f'atgoffa!

  • 5. Am 12:34 ar 14 Medi 2007, ysgrifennodd Ifan Jones:

    Byddai cerflun o Bendigeidfran ar ben Twthil yng Nghaernarfon yn edrych yn wych!

  • 6. Am 18:33 ar 15 Medi 2007, ysgrifennodd D. Enw:

    beth am yr hen Saunders? A beth am Iolo Morganwg ynghannol Caerdydd neu tu allan i'r Amgueddfa Genedlaethol neu hyd yn oed y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth gan iddo son am sefydlu un? A pam aros nes bod rhywun wedi marw, beth am Ron Davies tra ei fod yn fyw?

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.