Angladd ac anlwc
Dw i'n ymddiheuro am beidio blogio rhiw lawer ddoe. Fe es i angladd Deryk Williams, hen gyfaill a chydweithiwr, a roeddwn yn ddigalon braidd ar ôl ffarwelio a un fu farw ymhell cyn ei amser.
Fe gafodd Deryk y darn mwyaf o anlwc y des i ar draws hi erioed. Ar ôl ymddeol fel un o benaethiaid S4C roedd yn chwilio am rhywbeth i wneud, jobyn oedd yn ddiddorol ond yn ddi-stŵr. Mae'n sicr ei fod yn meddwl ei fod wedi canfod yr union beth pan gafodd ei benodi fel rheolwr Cymreig Cyfrifiad 2001. O fewn wythnosau dechreuodd yr holl stŵr ynghylch blwch ticio Cymreig a roedd yn rhaid i Deryk druan fynd o stiwdio i gyfarfod i stiwdio yn ceisio amddiffyn ei feistri tra'n ceisio eu hargyhoeddi nhw eu bod wedi creu smonach llwyr. Ar y pryd roedd 'na bwysau arno i ymddiswyddo ond fel un wnaeth astudio'r gyfraith roedd Deryk o'r farn bod hyn yn oed y cleient gwaethaf yn haeddu cynrychiolaeth!