Dathlu'r Deg
Dw i wedi sgwennu erthygl i'r prif safle ynghylch degawd datganoli. Er mwyn i chi allu ymateb dw i'n cyhoeddi hi fan hyn hefyd.
Degawd Datganoli
"Ydwyf". Go brin y bydd unrhyw un wnaeth aros ar ddihun yn oriau man Medi'r 19eg, 1997 yn anghofio llais pregethwrolo John Meredydd yn cyhoeddi'r newydd fod etholwyr Shir Gar wedi sicrhai buddugoliaeth fechan i'r ochor Ie yn y refferendwm datgonoli. Er mor fregus oedd y mwyafrif hwnnw roedd y canyniad heb os yn garreg filltir bwysig i Gymru.
Wrth gwrs fel oedd Ron Davies yn hoff o ddweud proses nid digwyddiad yw datganoli ac mae'r cynulliad heddiw yn wahanol iawn i'r un derbyniodd sêl bendith yr etholwyr ddegawd yn ôl.
Roedd blynyddoedd cynnar y cynulliad yn rhai anodd a dweud y leiaf. Yn sgil y brwydro mewnol ffyrnig yn y Blaid Lafur ar ol cwymp Ron Davies byw o ddydd i ddydd oedd hanes llywodraeth leiafrifol Alun Michael. Dim ond ar ôl i Rhodri Morgan gymryd y llyw y dechreuodd y corff ddatblygu a thyfu.
Mae'r datblygu hynny wedi bod yn ddi-dor er nid yn ddi-rwystr byth ers hynny. Yn nhermau ariannol mae gwariant y cynulliad wedi dyblu i bob pwrpas. Erbyn hyn mae'n gwario oddeutu pedair mil o bunnau'r pen ar ddarparu gwasanaethau i drigolion Cymru.
Fe fyddai rhan fwyaf o'r gwasanaethau hynny, iechyd, addysg ac yn y blaen, wedi eu darparu ta beth wrth gwrs. Y cwestiwn allweddol yw ydy'r modd y cyflenwir y gwasanaethau yn well neu hyd yn oed yn wahanol oherwydd bodolaeth y cynulliad?
Mae'r ateb i'r cwestiwn hwnnw yn hynod ddiddorol. Heb unrhyw amheuaeth mae 'na agendor bellach rhwng y ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu rhedeg yng Nghymru a Lloegr. Yr eironi yw mai'r rheswm penna am hynny yw'r newidiadau radicalaidd yn Lloegr yn hytrach nac unrhyw newid sylfaenol yng Nghymru.
Tra bod y llywodraeth yn San Steffan wedi troi'n fwyfwy at y sector breifat ac asiantaethau hyd-braich i ddarparu gwasanaethau mae gwleidyddion Bae Caerdydd wedi glynu at fodel llawer mwy traddodiadol. Cyfyng yw rôl y sector breifat yn y gwasanaethau cyhoeddus yma ac os unrhywbeth mae'n debyg o grebachu'n bellach.
Mae llywodraeth Bae Caerdydd hefyd wedi cyflwyno cyfres o bolisïau i greu "dwr coch claer" rhwng Cymru a Lloegr. Mewn rhai achosion, megis mynediad am ddim i Amgueddfeydd mae Lloegr wedi dilyn esiampl Cymru. Mae eraill fel dileu taliadau presgripsiwn yn parhau'n unigryw. Mae Cymru a'r Alban hefyd wedi mabwysiadu rhaglenni i ail-agor rheilffyrdd i deithwyr syniad sydd wedi ei wrthod gan yr adran drafnidiaeth yn Llundain. Ond mewn rhai meysydd wedi gorfod cyfaddawdi. Oherwydd rheolau Ewropeaidd, er enghraifft, roedd hi'n bosib i'r cynulliad gynnig cymorth i fyfyrwyr Cymreig sy'n mynychu Colegau yng Nghymru ond nid i rai sy'n dewis astudio dros y ffin.
Mae'n bosib dadlau'r naill ffordd neu'r llall pu’n ai ydy model Cymru’n well nac un Lloegr ond does dim gwadu eu bod yn gyfan gwbwl gwahanol i'w gilydd ac mae'r gwahaniaethau hynny yn sicr o gynyddu wrth i'r cynulliad ddechrau defnyddio ei hawliau deddfwriaethol newydd.
Ymhen pedair arall mae'n ddigon posib y bydd etholwyr Cymru yn wynebu trydydd refferendwm datganoli, y tro hwn i benderfynu a ddylai'r cynulliad gael pwerau deddfwriaethol tebyg i rai senedd yr Alban.