Deg i dragwyddoldeb
Mae heddiw'n ddiwrnod prysur rhwng popeth. Mae'n ddeng mlwyddiant y refferendwm ac mae'r gwleidyddion nol yn y Bae. Yn y cyfamser mae cynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol yn parhau yn Brighton gyda Mike German yn dal i bendroni dros ei ddyfodol a Lembit a Gabriella yn dathlu pen blwydd eu perthynas trwy ymddangos yn "Hello."
Gweithio ar y deng mlwyddiant ydw i'n benna heddiw gan ddal lan a rhai o rheiny oedd yng nghanol y dadlau deng mlynedd yn ôl.
Mae'n beth rhyfedd mai dim ond un o'r pum gwleidydd wnaeth ymddangos gyda'i gilydd ar lwyfan Theatr Bute ar noson y cyfri sy dal yn wleidydd etholedig sef Peter Hain. Mae'r pedwar arall, Win Griffiths, Ron Davies, Dafydd Wigley a Richard Livsey wedi gadael y llwyfan, rhai o'u gwirfodd ac eraill oherwydd damweiniau gwleidyddol neu bersonol. I aralleirio Harold Wilson os ydy wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth mae degawd yn oes.