³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Sori eto

Vaughan Roderick | 16:03, Dydd Mawrth, 18 Medi 2007

Ar ôl cwrdd â swyddogion y Blaid Lafur mae cyn-ymchwilydd Ann Jones, David Collins, wedi rhyddhau datganiad arall yn ymddiheuro am ei sylwadau ynghylch yr Iaith Gymraeg.

Roedd Mr Collins eisoes wedi pwysleisio nad oedd ei ddaliadau personol yn adlewyrchiad o bolisïau ei blaid na safbwyntiau ei gyflogwr. Dyma oedd ganddo i ddweud ddoe yn ei lythyr ymddiswyddiad.

"As you know, the comments I left were personal and in no way reflective of your opinions or the policy of Wales Labour Party"

Heddiw mae wedi mynd un cam ymhellach gan fynnu nad oedd ei sylwadau yn adlewyrchiad teg... o' i ddaliadau personol ei hun.

"The comments were written in haste and do not represent my views. In truth I support the policy of Welsh Labour, which is to invest in a strong future for the Welsh language."

Nawr dw i ddim yn gredwr mewn cicio dyn sydd ar lawr ond dyw David Collins ddim yn gwneud ffafrau a'i hun trwy'r holl ddatganiadau 'ma.

Gair i gall gan Denis Healey "os ydych chi mewn twll y peth cyntaf i wneud yw stopio palu."

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 18:27 ar 18 Medi 2007, ysgrifennodd Dewi:

    Ymddiswyddiad yn drueni i fod yn onest - buasai ymddiheurio wedi bod yn ddigon. Y boi, gyda phlant ifanc, nawr yn gorfod chwilio am waith.

  • 2. Am 17:34 ar 19 Medi 2007, ysgrifennodd Rhodri:

    Gwefan arall ddiddorol ar y trywydd hwn yw . Mae'n nhw'n bwriadu creu rhyw fath o YouTube yn benodol ar gyfer amlygu ieithoedd gwahanol y byd o fewn y flwyddyn nesaf.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.