³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Mewn enw'n unig

Vaughan Roderick | 11:27, Dydd Llun, 17 Medi 2007

Sgwennais wythnos ddiwethaf am y dryswch ynghylch enw Llywodraeth Bae Caerdydd. Mae Betsan hefyd wedi bod yn ceisio darganfod beth ar y ddaear i alw'r peth.

Dw i'n cael ar ddeall y gallai 'na fod datblygiadau yn y maes yma yn ystod y dyddiau nesaf gyda phwysau cynyddol am arddel y teitl "Llywodraeth Cymru/Government of Wales/Welsh Government" yn lle "Llywodraeth y Cynulliad/Welsh Assembly Government". Wedi'r cyfan Llywodraethu Cymru mae'r cabinet nid llywodraethu trigain o wleidyddion.

"Llywodraeth Cynulliad Cymru" yw'r teitl a ddefnyddir ym Mesur Llywodraeth Cymru ond mae enw'r mesur ei hun yn rhoi rhiw faint o hyblygrwydd wrth ddeilio a'r mater. Ta beth mae gwleidyddion y Bae wedi bod yn ddigon parod i anwybyddu llythyren y ddeddf yn y gorffennol. Mae da'r Albanwyr term da am y fath yma o beth sef "Independence creep"

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:04 ar 17 Medi 2007, ysgrifennodd Arfon Jones:

    Fel mae'r SNP wedi newid yr enw o Scottish Executive i Scottish Government mi ddylsen ni alw ein llywodraeth yn Senedd neu Senedd Cymru yn union fel y Dail yn y Weriniaeth.

  • 2. Am 11:56 ar 18 Medi 2007, ysgrifennodd Formidonis:

    Mae gwahaniaeth sylfaenol i'w gofio yma rhwng ystur a rol Senedd a Llywodraeth: Senedd = 'Parliament', Llywodraeth = 'Government'
    Felly byddai Senedd Cymru yn cyfieithu fel 'Parliament of Wales'
    a Llywodraeth Cymru yn cyfieithu fel 'Government of Wales'.

    Llywodraeth sy'n cynnig polisiau, rol Senedd yw craffu ar y polisiau yna.

  • 3. Am 14:34 ar 18 Medi 2007, ysgrifennodd Rhodri:

    Ym, na. Mae senedd a llywodraeth yn ddau beth gwahanol Arfon. Y Dail yw senedd Iwerddon, nid llywodraeth Iwerddon. Cawn weld "Senedd Cymru" pan gawn ni pwerau deddfu "seneddol" i'r Cynulliad presenol.

    Ta beth, mae Vaughan ag aelodau'r Cynulliad yn iawn. Llywodraeth Cymru. Syml a chywir.

    Felly erbyn hyn mae ganddom ni ddwy ran o dair o strwythyrau gwlad annibynnol (er fod dim pwerau deddfu llawn gan y Cynulliad eto). Sut mae cyfiawnhau diffyg barnwriaeth annibynol Gymraeg (yn enwedig gan fod gan yr Alban hyn)? Vaughan, ynrhyw suon am hyn o gwbl?

  • 4. Am 18:50 ar 18 Medi 2007, ysgrifennodd Dan Din:

    "dwy ran o dair o strwythurau gwlad annibynnol"

    Bydd Cymru'n annibynnol pan fydd ganddi fyddin ei hun. Nid tan hynny. Mae unrhyw son am annibyniaeth o fath arall yn hurt.

    Pan na fydd milwyr o Gymru yn mynd i ymladd mewn brwydrau ar sail dadleuon Lloegr yn unig - adeg hynny bydd Cymru'n annibynnol.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.