Arglwydd Banjo?
Pwy fydd yn cynrychioli Plaid Cymru yn Nhŷ’r Arglwyddi? Wel credwch neu beidio mae 'na ymgeisydd eisoes wedi ei ddewis. Yn wir cafodd ei ddewis wyth mlynedd yn ôl cyn i'r blaid newid ei meddwl a phenderfynu peidio ag enwebu Arglwyddi wedi'r cyfan.
Pwy yw'r person hwnnw? Cyn-ysgrifennydd cyffredinol y blaid Dafydd Williams, Dai Banjo i'w gyfeillion. Erbyn hyn mae Dafydd yn gweithio i Lywodraeth y Cynulliad. Ydy e'n debyg o fynnu ei le yn ail siambr?
SylwadauAnfon sylw
Beth am yr Arglwydd Owen John Thomas o Kairdiff? Dyn egwyddorol sydd wedi rhoi oes o wasanaeth i Gymru. A fydd e'n fodlon derbyn y teitl Arglwydd?