Lle cwrdd
Yfory fe fydd Llywodraeth y Cynulliad yn cynnal cynhadledd ynglŷn â bwyta'n iach. Peidiwch â becso. Dw i ddim am droi i fod yn rhyw Jamie Oliver Cymreig. Nid testun y gynhadledd sydd o ddiddordeb ond y lleoliad.
Nid am y tro cyntaf, mae'r Llywodraeth yn defnyddio'r cyfleusterau ardderchog sydd ar gael yng Nghanolfan yr Holl Genhedloedd yng Nghaerdydd, canolfan sy'n cael ei marchnata gan Gyngor y Ddinas.
Edrychwch ar . Mae anodd peidio edmygu'r cyfleusterau modern a'r cyfleustra ac mae pris llogi ystafelloedd o rwng £175 a £1500 y dydd yn ddigon rhesymol am wn i. Yr hyn sydd ddim yn cael ei nodi ar y wefan yw pwy sy'n berchen y Ganolfan a beth yw ei phwrpas. Rhaid mynd i ganfod hynny.
Yn ogystal â bod yn ganolfan gynadledda mae Canolfan yr Holl Genhedloedd yn eglwys ac nid rhyw eglwys ryddfrydol, canol y ffordd chwaith. Mae'n eglwys sy'n credu hyn; "The Bible (Holy Scripture) is the inspired, inerrant, infallible word of God to all people at all times."
Er ei bod yn eglwys ifanc mae Eglwys yr Holl Genhedloedd yn perthyn i draddodiad yr eglwysi Apostolaidd a Phentecostaidd ac mae'n arddel diwinyddiaeth a elwir yn "restoration theology". Google yw eich ffrind i ddysgu mwy am y pwnc hwnnw ond teg yw dweud bod yr Eglwys yn arddel safbwyntiau traddodiadol a llym ynglŷn â phynciau moesol.
Rhydd i bawb ei farn wrth gwrs a does dim byd o'r hyn sydd gen i ddweud yn fan hyn yn unrhyw fath o feirniadaeth o'r Eglwys, ei swyddogion na'i haelodau.
Cwestiwn sy gen i. Ydy llywodraeth y Cynulliad yn gyffyrddus yn defnyddio arian cyhoeddus i ddefnyddio cyfleusterau sy'n gysylltiedig ag un grefydd arbennig, crefydd sy'n ystyried gweithredoedd hoyw a rhyw y tu allan i briodas yn bechadurus? Beth mae hynny'n dweud am ymroddiad y llywodraeth tuag at gydraddoldeb?
SylwadauAnfon sylw
Hynod ddiddorol a chwestiynau cwbl dilys Vaughan!
Nid yn unig y mae'r Cynulliad ar fai, ond hefyd Cyngor y Ddinas - efallai y dylai'r sefydliadau perthnasol ail-ystyried yn llwyr eu cefnogaeth nid yn unig yng nghyswllt y cyfleuster dan sylw ond o ran unrhyw gyfleuster sy'n mynd yn groes i'r egwyddor sylfaenol o gwmpasu pawb o bob lliw a llun ac o bob cred.
Roeddwn i'n meddwl fod Christnogaeth yn cympasu 'pawb o bob lliw a llun ac o bob cred'. Nage fe neges o gariad a goddefgarwch sydd gan Christnogaeth?
Efallai mai cariad a goddefgarwch yw'r Gristnogaeth sydd fwyaf cyfarwydd i ni i gyd, ond mae unrhyw ffwndamentaliaeth, boed yn Gristnogol neu'n Islamaidd neu'n gysylltiedig ag unrhyw grefydd arall, yn beth hynod o beryglus. Rwy'n hollol siwr y byddai llawer iawn o wrthwynebiad cyhoeddus pe bai unrhyw gyngor neu gorff cyhoeddus yn defnyddio, dyweder, adeilad o eiddo ffwndamentaliaid o grefydd heblaw Cristnogaeth.
Wyt ti Helen yn awgrymu fod perchnogion yr adeliad 'ma yn ffwndamentalwy? Os felly, ym mha ffordd?