Fel sawl dw i wedi bod yn dilyn helyntion gwleidyddol Gwlad Belg dros y misoedd diwethaf.
Dw i ddim yn hawlio bod yn unrhyw fath o arbenigwr ar y wlad honno. Guto Thomas sy'n goflau am yr ochr Ewropeaidd yn yr uned wleidyddol a'r unig dro bues i ym Mrwsel yn ystod y blynyddoedd diwethaf oedd am benwythnos o ramant a gloddesta yn hytrach nac un o dyrchu i entrychion gwleidyddol y wlad.
Serch hynny mae'r sefyllfa yn un diddorol a pherthnasol. Chwe mis ar 么l etholiad cyffredinol mae gwleidyddion y wlad o hyd yn methu ffurfio llywodraeth ac mae nhw yng nghanol argyfwng gwleidyddol a chyfansoddiadol sy'n gosod trafferthion haf diwethaf yng Nghymru mewn rhyw fath o gyd-destun.
Mae'n bosib mai diwedd hyn i gyd fydd hollti'r wlad yn ddwy gyda Fflandrys a Walonia yn mynd ei fyrdd ei hun. Mae hynny'n codi cwestiwn hynod ddiddorol sef beth fyddai ymateb yr Undeb Ewropeaidd i sefyllfa o'r fath?
Yn 么l yn 2004 fe holodd Romano Prodi, llywydd y comisiwn ar y pryd, yngl欧n a'r posibilrwydd o sefyllfa debyg yng Nghymru. Roedd hwn yn symudiad clyfar gan Lafur wnaeth ennill tipyn o gyhoeddusrwydd a chreu embaras i Blaid Cymru. Dyma oedd gan Romano Prodi i ddweud;
鈥淲hen a part of the territory of a member state ceases to be part of that state, e.g. because that territory becomes an independent state, the treaties will no longer apply to that territory. 聽
In other words, a newly-independent region would, by the fact of its independence, become a third country with respect to the (European) Union and the treaties would, from the day of its independence, not apply any more in its territory."
Roedd Eluned Morgan yn gwbwl sicr o ystyr geiriau'r llywydd. Ychwanegodd ei sylwadau ei hun.
"The Commission has now made it absolutely clear that from the first moment a territory inside the existing European Union becomes independent, that territory would cease to be part of the EU... After its expulsion, Wales would be required to re-apply for EU membership and would only be re-admitted with a unanimous vote from all Member States. It is clear that unanimity would not be reached because of Spanish and other concerns regarding the precedent that would be set.鈥
Achosodd llythyr Mr. Prodi gryn gynnwrf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd yn , Catalwnia a Gwlad y Basgiaid. Os oedd Mr. Prodi yn gywir roedd sicrhau annibyniaeth i'r gwledydd hynny bron yn amhosib ac fe wnaeth cenedlaetholwyr ar hyd a lled Ewrop geisio tanseilio rhesymeg Llywydd y Comiwiwn.
Roedd yr wrth-ddadl yn un syml. Hyd yn oed os oedd Mr Prodi yn gywir yngl欧n a sefyllfa lle roedd gwlad wedi datgan ei hannibyniaeth heb gydsyniad (sefyllfa o UDI fel y cafwyd yn Rhodesia ac fel sy'n debyg yn Kosovo yr wythnos hon) doedd hi ddim yn berthnasol mewn sefyllfa lle roedd roedd gwladwriaeth wedi ymwahanu trwy gydsyniad. Pam y dylai Lloegr neu Castille annibynnol, fel gwledydd mawrion newydd, barhau'n aelodau o'r Undeb Ewropeaidd tra bod gwledydd bychan newydd, yr Alban neu Catalonia, dyweder, yn cael eu diarddel? Onid oedd y syniad bod y wladwriaeth newydd fwyaf yn etifeddu hawliau a chyfrifoldebau yr hen wladwriaeth braidd yn ddi-synnwyr?
Yn 么l a ni i Wlad Belg felly i ystyried y sefyllfa yno o ddilyn rhesymeg Romano Prodi. Pe bai'r wlad honno yn hollti ddwy fe fyddai Fflandrys fel y rhanbarth fwyaf yn parhau'r rhan o'r Undeb Ewropeaidd tra y byddai Walonia yn cael ei diarddel.
Does ond angen meddwl am eiliad am sut y byddai'r Ffrancod yn arbennig yn ymateb wrth weld y ffensys a'r swyddfeydd tollau'n cael eu codi o gwmpas yn encil fechan hon yng nghalon Ewrop er mwyn gwybod mai nonsens yw'r syniad.
Ond fe allai'r Undeb diarddel Fflandrys hefyd er mwyn bod yn gytbwys ac er mwyn danfon neges glir i unrhyw ranbarth Ewropeaidd arall oedd yn beiddio ystyried herio ffiniau sanctaidd y cenedl-wladwriaethau presennol. Wedi'r cyfan efallai y byddai hynny'n ddigon i ddod a gwelidyddion Gwlad Belg at eu gilydd a'u gorfodi i ailfeddwl. Yn sicr fe fyddai hynny'n well na gosod cynsail a allai arwain at symudiadau tebyg ar hyd a lled y cyfandir.
Wrth gwrs fe fyddai na un broblem fach wrth ddiarddel Fflandrys. Yn lle mae pencadlys yr Undeb Ewropeaidd dwedwch?