³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Problem Plaid

Vaughan Roderick | 11:41, Dydd Gwener, 15 Chwefror 2008

Rwyf wedi bod i ffwrdd am gwpwl o ddyddiau. Beth ydw i wedi colli, dywedwch?

Wel doedd dim angen bod yn Eseia i broffwydo bod cyhoeddiad Dyddiol cyf bron yn anorfod. Serch hynny waith i mi frolio fy mod wedi darogan diwedd y Byd yn fan hyn. Tra fy mod yn chwythu fy nhrymped fy hun fe wnâi nodi y byddai "Llais y Bobol" yng Ngwynedd wedi gwybod na fyddai'r enw hwnnw'n dderbyniol i'r Comisiwn Etholiadol ym mhell cyn hyn pe bai nhw wedi bod yn talu mwy o sylw i'r blog! Ta beth "Llais Gwynedd" yw'r enw newydd ac fe fydd llwyddiant neu fethiant y grŵp yma yn un o straeon diddorol Mai'r cyntaf.

Dydw i ddim wedi sgwennu o'r blaen am helynt ysgolion Gwynedd. Mae hynny'n rhannol oherwydd nad wyf yn gwbwl gyfarwydd â'r holl ddadleuon. Dw i hefyd yn un sy'n credu bod y cyfryngau Cymraeg yn tueddu rhoi gormod o sylw i straeon o'r Gogledd Orllewin yn yr un modd ac mae'r cyfryngau Saesneg yn dyrchafu straeon digon pitw o Gaerdydd.

Serch hynny dw i yn dechrau meddwl bod Llais Gwynedd yn dynodi rhywbeth mwy arwyddocaol na gwrthryfel bach lleol ynghylch addysg. Mae hi'n ymddangos erbyn hyn bod arweinyddiaeth Plaid Cymru naill ai trwy hap neu drwy fwriad yn pechu rhai o'i chefnogwyr traddodiadol mwyaf pybyr. Does ond eisiau darllen Maes-e neu ddatganiadau diweddar Cymdeithas yr Iaith i wybod bod y ffrae addysg, helynt "Y Byd" a lefel ariannu'r Coleg Ffederal Cymraeg wedi cynddeiriogi nifer sylweddol o Genedlaetholwyr.

Nawr mae'n ddigon posib mai realiti llywodraethu neu bwysau gan Lafur a'r gwasanaeth sifil sy'n gyfrifol am benderfyniadau llywodraeth y cynulliad ond mae cynllun ysgolion Gwynedd (lle nad yw'r esboniadau yna'n tycio) yn awgrymu newid mwy sylfaenol.

Trwy gydol ei hanes mae Plaid Cymru wedi bod yn rhyw gymysgedd rhyfedd rhwng plaid wleidyddol a mudiad protest. Roedd Gwynfor Evans yn mynnu bod hynny'n gryfder gan honni bod y Blaid yn rhan o "Fudiad Cenedlaethol" ehangach oedd yn cynnwys bron pob dim oedd a wnelo unrhyw beth â'r iaith Gymraeg a Chymreictod. O bryd i gilydd roedd hynny'n achosi trafferthion wrth i'r arweinyddiaeth geisio sicrhâi teyrngarwch y selogion wrth apelio am bleidleisiau'r rheiny oedd yn amheus o ffwndamentaliaeth ieithyddol y garfan honno. Roedd Gwynfor ei hun a Dafydd Wigley yn feistri a'r gadw'r ddysgl yn wastad. Doedd gan Dafydd Elis Thomas ddim o'r amynedd ac mae'n ymddangos nad oes gan Ieuan Wyn Jones yr awydd i wneud hynny.

Yn sgil digwyddiadau’r wythnosau a'r misoedd diwethaf y cwestiwn sy'n codi yw hwn. Ydy arweinyddiaeth Plaid Cymru wedi penderfynu (yn ymwybodol neu'n isymwybodol) nad oes angen y "Mudiad Cenedlaethol" arni bellach? Ydy'r Blaid yn bwriadu cefnu ar ei chenedlaetholdeb ieithyddol hanesyddol a chanolbwyntio ar fod yn blaid wleidyddol draddodiadol yn chwennych grym ar ei thelerau ei hun?

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 12:55 ar 15 Chwefror 2008, ysgrifennodd Dyfrig:

    Mae hi'n biti bod Cymdeithas yr Iaith ac eraill yn mynnu clymu helyntion Y Byd, y Coleg Ffederal ac Ysgolion Gwynedd gyda'u gilydd, oherwydd mae dwy ddadl wahanol yn y fan hyn. Mae pob cyngor gwledig yng Nghymru yn wynebu gorfod cau ysgolion bychain, diolch i nifer o ffactorau allanol.Mae Cyngor Gwynedd wedi chwilio am ffordd o wynebu'r her genedlaethol hon, ond dyw nhw heb lwyddo i fodloni carfan fechan ond swnllyd o drigolion Pen Llyn. Dwi'n dadlau bod cynllun Cyngor Gwynedd yn un blaengar a theg, ac ei fod yn gwbl gydnaws ac egwyddorion cenedlaetholgar traddodiadol - wedi'r cyfan, onid oes Cymry Cymraeg yn mynychu ysgolion Caernarfon, Bethesda, Dolgellau ayyb yn ogystal a phentrefi bychain cefn gwlad.
    Mae penderfyniad Cyngor Gwynedd yn deillio o fod mewn gwasgfa gwirioneddol. Mae posib esbonio pam ei fod yn digwydd, hyd yn oed os nad ydych chi'n cytuno ag o. Fedra i ddim gweld sut mae modd esbonio penderfyniad Rhodri Glyn ar y papur dyddiol. Mae'r swm o arian sy'n cael ei drafod yn wirioneddol bitw, yng nghyd-destun cyllideb yr adran dreftadaeth. Ac er gwaethaf beth mae'r gweinidog yn ei honni, mae adroddiad Tony Bianchi, maniffesto Plaid Cymru a chytundeb Cymru'n Un i gyd yn cefnogi'r egwyddor o sefydlu papur dyddiol Cymraeg. Alla i ddim dirnad pam fod gweinidog Plaid Cymru wedi penderfynnu cynddeiriogi cymaint o'i gefnogwyr craidd, a hynny er mwyn arbed £400,000 o bunoedd y flwyddyn.

  • 2. Am 22:57 ar 15 Chwefror 2008, ysgrifennodd Martin Eaglestone:

    Mae'r blog yma yn diddorol iawn oherwydd mae'n agos iawn i beth sydd yn gwynebu Plaid Cymru dros y misoedd nesaf. Mi ddaw PC allan o etholidau'r cyngor lleol yn gryfach, fel y "sefydliad" lleol wedi trefnu ei pleidlais i curo 'Llais Gwynedd', neu gyda problem enfawr yn Y Fro oherwydd y colled mewn cefnogaeth.

    Yn wir does neb eto yn gwybod.

    A yw hwn yn "Blaenau Gwent moment i Plaid Cymru" ?

  • 3. Am 09:37 ar 19 Chwefror 2008, ysgrifennodd Helen:

    Yn anffodus iawn, ymddengys mai dyma sy wedi digwydd mewn rhannau o Wynedd, ac rwy’n ofni bod y Blaid yn mynd i ddioddef colledion mawr adeg yr etholiadau lleol. Bydd yn ddiddorol gweld wedyn be wnaiff Cyngor Gwynedd ar ei newydd wedd ynglŷn â holl fater yr ysgolion bach. Yr hyn sydd wedi cynddeiriogi pobl yw nad yr ysgolion lleiaf, yn aml iawn, sy’n wynebu’r fwyell, ond weithiau rhai a fyddai, yn ôl tyb y mwyafrif mawr o bobl, yn ddigon o faint i fod yn hyfyw, naill ai fel unedau ar wahân neu fel rhan o grŵp ffederal o ysgolion cyfagos. Wna i ddim enwi’r un ysgol yn benodol, ond mae’n deg dweud bod y werin bobl wedi digio mewn llawer o bentrefi ynglŷn â’r bygythiadau diweddaraf yma.

    Iawn, os aiff nifer y disgyblion islaw rhyw drothwy, gellid dadlau y gallai profiadau addysgol y plant dan sylw ddioddef ac, os oes ysgol addas gerllaw, gallai’r plant hynny elwa ar eu profiad addysgol o fynd i ysgol honno. Hefyd, os oes grŵp o ysgolion cyfagos a’u hadeiladau’n is-safonol a nifer eu disgyblion yn isel, gall creu ysgol ardal newydd sbon fod yn ateb i’r broblem. Y pryd hynny, oes, mae angen edrych ar y sefyllfa â chrib fân, a gwneud, gyda chydsyniad, yr hyn sydd orau i’r plant. Dwy ddim yn credu y byddai neb yn gwrthwynebu hynny.

    Fodd bynnag, pan fo ysgolion o faint digonol mewn adeiladau addas dan fygythiad, mae angen ystyried o ddifri’ bosibiliadau eraill, megis mwy o ffederaleiddio ysgolion, a helaethu’r cynllun hwnnw. Hefyd, tybed a fyddai modd defnyddio rhannau segur mewn rhai ysgolion at ddibenion addysgol y tu allan i'r sector cynradd - oedolion, meithrin a.y.y.b.? A derbyn na all y sefyllfa bresennol barhau, efallai mai cyfuniad o ffederaleiddio ac arallgyfeirio fyddai’r ateb gorau i’r broblem.

    Yn olaf, rwy’n credu (fel aelod o’r Blaid) fod Plaid Cymru’n cymryd ei safle yng Nghyngor Gwynedd yn rhy ganiataol, a bod newid ar y gorwel. Amser a ddengys.

  • 4. Am 11:03 ar 8 Mawrth 2008, ysgrifennodd Iwan Llewelyn Jones:

    Arferwn ystyrried Plaid Cymru yn gymaint o Fudiad Cendelaethol ag a oedd hi o Blaid Wleidyddol, a chodais fy nghap iddi. Ond ers tro bellach, teimlais mai 'grym' yw'r peth pwysicaf ar ei hagenda, a chadarnhaodd y bwriad o gau ysgolion yng Ngwynedd fy holl amheuon. Unwaith y mae unrhyw blaid yn rhoi lle i 'rym' a 'phwer', a cholli tan y weledigaeth gyntaf, daw hithau'n 'sefydliad' ynddi'i hun pan ddylai fod yn 'wrth-sefydliad.' OND gwylier Llais Gwynedd hefyd golli'r weledigaeth gyntaf pe bae'n closio at ennill 'grym.'

  • 5. Am 08:05 ar 27 Ebrill 2008, ysgrifennodd anhysbys:

    Y teimlad gan gefnogwyr ac aelodau y Blaid yng Ngwynedd yw fod Plaid Cymru yn Genedlaethol wedi cefnu arnynt.
    Maen't wedi gweld tros ddegawd wedi mynd o reolaeth Plaid yng Ngwynedd gyda dim, newid sylfaenol.

    Ar y stepan drws maen't yn cwestiynnu rhesymeg o gau ysgolion gyda 80 - 120 o blant ynddi gan neb llai na Dafydd Iwan, maen't yn cwestiynnu gwerthu safle Doc Fictoria am £1.

    Y teimlad yw wrth gosbi y Blaid yng Ngwynedd y byddent yn dod at ei synhwyrau cyn etholiad San Steffan.

    Os na, wel efallai gwelid iddynt golli y ddwy sedd yng Ngwynedd i eraill.

    Cawn weld ar Mai 2ail.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.