Trwy gyfrwng y cyfrwng
Yn wyneb yr holl gythrwbl ynglŷn â'r papur dyddiol Cymreig mae'n werth darllen yr erthygl gan Andrew Neil yn croniclo dirywiad y wasg Albanaidd. Mae'r sefyllfa mae'n darlunio yn ddigalon.
"From a historic perspective, the decline of Scotland's indigenous newspapers is breathtaking. In the late 1970s, at the height of the first modern clamour for devolution, the (then Glasgow) Herald peaked at almost 130,000 and the Scotsman at almost 100,000. Both papers have lost almost half their sales in a generation; no London-based quality has done anything like as badly."
Nid yr Herald a'r Scotsman yw'r unig bapurau sy'n dioddef. Mae'r papurau trwm eraill hefyd yn colli darllenwyr ac ymhlith y papurau poblogaidd mae'r papur llwyr Albanaidd y Daily Record wedi colli ei choron i'r fersiwn lleol o'r Sun. Wrth reswm mae'r wasg Albanaidd yn parhau'n gryfach na'r wasg Gymreig ac mae'n rhaid cofio hefyd bod y papurau Llundeinig sy'n llwyddo yno yn cynhyrchu rhifynnau Albanaidd. Serch hynny dyw'r darlun ddim yn un gobeithiol.
Yma yng Nghymru, byrhoedlog fu'r ymdrechion diweddar i gyhoeddi rhifynnau Cymreig o bapurau Prydeinig gyda'r Welsh Mirror a'r Welsh Daily Star yn diflannu'n fuan wedi eu geni. O safbwynt y papurau cynhenid crebachu mae nifer y darllenwyr. Mae'r Western Mail a'r Daily Post yn gwerthu llai na 75,000 mil o gopïau rhyngddyn nhw ac mae cyfanswm cylchrediad y pedwar papur nos yn rhyw 130,000. Mae'n bosib darllen y ffigyrau manwl yn .
Nid fy lle i yw barnu neu feirniadu cynllun busnes Dyddiol cyf ond teg yw dweud bod lansio unrhyw fusnes yn anoddach mewn marchnad sy'n crebachu nac un sy'n ehangu.
Beth felly yw'r rhagolygon ar gyfer papur dyddiol Cymraeg? Wel mae'n anodd anghytuno a safbwynt ac eraill bod hi bron yn amhosib dychmygu sefyllfa lle mae Dyddiol yn gallu addasu ei model busnes i weithio o ystyried yr arian cyhoeddus cyfyng. Mae'n bosib torri cot yn ôl y brethyn ond go brin fod 'na ddigon o frethyn fan hyn i linio gwasgod.
Os ydy cyhoeddi papur yn amhosib i Dyddiol oes 'na rywun arall a fyddai'n gallu llwyddo? Ar yr olwg gyntaf fe fyddai cwmnïau fel Trinity Mirror neu Tindle (perchnogion Y Cymro, y Cambrian News a Radio Ceredigion) yn gallu cynhyrchu papur llai costus na'r Byd. Byddai ddim angen cyflogi tîm gwerthu hysbysebion ac fe fyddai'n bosib dyblu i fynnu ar y newyddiaduraeth.
Y broblem 'da cynllun o'r fath yw bod 'na hen ddigon y dystiolaeth bod 'na dalp o Gymry Cymraeg wnaeth ddewis y fersiwn Saesneg os oes na gyhoeddiadau Cymraeg a Saesneg tebyg i'w gilydd- y "Caernarfon & Denbigh" yn hytrach na'r Herald Cymraeg, yr Holyhead and Anglesey Mail yn hytrach na Herald Môn. Mae'r un patrwm yn eglur yma ar dudalennau "Cymry'r Byd"- y tudalennau Cymraeg unigryw yw'r rhai sy'n tueddu denu'r nifer fwyaf o ddarllenwyr.
Un rheswm am lwyddiant y papurau bro yw'r ffaith nad yw eu cynnwys ar gael yn Saeneg yn unman. Dyna'r rheswm hefyd y tu ol i benderfyniad golygyddol gan y Daily Post i lenwi "Yr Herald" ar ei wedd bresennol a sgwennu gwreiddiol yn hytrach na chrynodeb newyddion.
Gwefan amdani, mwy na thebyg, felly. Ond os ydy'r wefan am lwyddo mae'n rhaid iddi fod yn un rhad ac am ddim. Un agwedd o gynllun Dyddiol oedd yn fy mhoeni oedd y syniad y byddai darllenwyr electronig yn fodlon tanysgrifio i'r wefan. Mae sawl papur ar hyd a lled y byd wedi ceisio codi am wefan ac wedi methu. Hyd y gwn i, dim ond y "Financial Times" a'r "Wall Street Journal" sy'n dal i wneud. Ychydig wythnosau yn ôl rhoddodd y New York Times y gorau i'r arfer. Os na fedrith yr NYT ddarbwyllo darllenwyr i dalu am wefan go brin y byddai'r Byd, Golwg, Y Cymro neu bwy bynnag yn gallu llwyddo.
SylwadauAnfon sylw
Y tristwch yw mi fase wedi bod yn bosib mynd ati i lansio gwefan (ar raddfa fach) 8 mlynedd yn ôl, a mi fydde ni gymaint ymhellach mlaen erbyn heddiw.
Wnes i weithio ar cwpl o wefannau diwylliannol Cymreig yn 2000/2001 oedd wedi ei cyllido yn rhannol gan arian Amcan 1 - does dim un yn bodoli heddiw, ond o leia wnaethon nhw fentro arni.
Mae sefyllfa'r wasg brint yn un cymleth ond dwi ddim yn credu mai gwasanaeth gwefan yn unig yw'r ateb.
Mae pob gwefan newyddion llwyddiannus (ag eithro un y ³ÉÈËÂÛ̳, sydd yn eithriad - does fawr neb yn darllen gwefannau newyddion Channel 4 neu ITN) yn ddibynnol ar bapur dyddiol. Hynny yw, petai'r Guardian yn peidio a chyhoeddi fersiwn brint ddyddiol dwi'n amau y byddai ei nifer darllenwyr newyddion arlein yn colapsio hefyd.
Dwi'n bersonol yn credu mai'r opsiwn orau fyddai i Dyddiol drafod gyda Trinity Mirror. Mae cael papur print dyddiol Gymraeg yn holl bwysig o ran amrywiaeth newyddion, hygrededd y Gymraeg a rhoi symbyliad i ddarllen Cymraeg, mae papur print hefyd yn hysbysebu ei hun (a'r Gymraeg) wrth fod ar y silff. Fel ddywedodd rhywun, byddai gweld papur Cymraeg, beth am ei alw'n Y Byd, wrth ymyl teitlau fel Guardian, Sun etc yn rhoi hygrededd i'r iaith mewn ffordd nad yw gwefan. Fydd angen i'r wefan fod am ddim. Ond mae ganddom yr opsiwn o gael papur print a gwefan, pam ond mynd am un?
Does neb a wyr beth ddigwyddith i'r wasg brint ac mae perygl y byddai penderfyniad gan y Gweinidog i fynd yn syth am wefan newyddion yn debyg i benderfyniad Beeching i gau'r holl rheilffyrdd yna neu'r holl son bu rhai blynyddoedd yn ol y byddai 'pawb' yn telegyfathrebu ac yn gweithio o gartre yn lle mynd yr 'holl ffordd' i weithio mewn swyddfa.
Mae lot i ddweud felly, o ran llythrennedd, symboliaeth, hygrededd, gwerth am arian (dwi'n meddwl y byddai llai o bobl yn darllen gwefan newyddion heb fersiwn brint na'n darllen gwefan newyddion gyda fersiwn brint) ac amser i fynd am bapur dyddiol print.
Does gen i ddim hang-yp am dderbyn arian cyhoeddus chwaith. Mae na rhywbeth sydd wedi gwylltio llawer o gefnogwyr menter Dyddiol sef gweld newyddiadurwyr y ³ÉÈËÂÛ̳ ac S4C yn cwestiynnu 'viability' Y Byd pan eu bod nhw'n cael eu cyflogi (ar gyflogau'n da sy'n gyson a'u cydweithiwyr Saesneg eu hiaith) ac heb wneud diwrnod o 'fenter' na chynllun busnes erioed. Pa mor viable fyddai S4C neu Radio Cymru pe bai angen gwneud cais fel un Dyddiol? Cofier, mae £200k ond 0.2% o gyllid flynyddol S4C. Dyna'r cyd-destun ddylsem feddwl ynddo.
Efallai ymhen 3 mlynedd fydd ganddom well syniad o sut mae'r farchnad newyddion am fynd. Bryd hynny fydd Y Byd wedi magu hygrededd fel papur print, wedi magu marchnad a bydd modd wedyn (o bosib, ac os mai dyna fydd y farchnad yn mynd) i symud i fersiwn ddi-brint. Ond mae hynny i'w drafod. Y bwnc ar hyn o'r bryd yw cael papur dyddiol print yn y Gymraeg. Byddai 'blog Golwg' ddim yn gwneud y job cystal.
Mae cymharu'r safle we grybwylliedig gan Y Byd i safle newyddion Cymru'r Byd braidd yn anheg.
Bwriad Y Byd fel rwy'n deall yw gwasanaeth newyddion eitha eang, gan gynnwys newyddion Prydeinig a bydeang. Efallai ei fod yn gynllun rhy uchelgeisiol, ond o leia mae'n nhw'n ceisio creu rhywbeth gwreiddiol ag ehangu gorwelion.
I gymharu, mae cynnwys safle newyddion ³ÉÈËÂÛ̳ Cymru'r Byd yn blwyfol tu hwnt, ac yn aml yn eitha tebyg i bapur bro. Mae'n sefyllfa anodd i'w amdiffyn o feddwl am yr adnoddai sydd gan y ³ÉÈËÂÛ̳, a'r gwir bosibilrwydd o greu safle gyflawn newyddion yn y Gymraeg. Dydy hyd yn oed eitemau Prydeinig a rhyngwladol newyddion teledu S4C ddim yn ymddangos ar Gymru'r Byd. Pa syndod nad yw pobol yn troi ati?