Anoracia
Rhag ofn eich bod eisiau gwybod... os ydy mathemateg Guto Thomas yn gywir mae 'na 3266 o ymgeiswyr yn sefyll etholiad ym Mis Mai ar gyfer y cynghorau sir. Yn eu plith mae 877 o ymgeiswyr Llafur, 519 o ymgeiswyr Plaid Cymru, 516 Ceidwadwr a 439 Democrat Rhyddfrydol. Mae 'na 718 o ymgeiswyr annibynnol. Ymhlith y grwpiau a phleidiau llai mae 28 ymgeisydd gan y BNP (gyda'r nifer fwyaf yng Nghonwy) 29 gan Lais y Bobol (20 ym Mlaenau Gwent a 9 yn Nhorfaen) a 28 gan Lais Gwynedd.
Mae gan Lafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol o leiaf un ymgeisydd ym mhob ardal cyngor. Mae'r Toriad wedi llwyddo ym mhob man ac eithrio Merthyr. Llafur sydd a'r nifer fwyaf o ymgeiswyr ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont, Caerffili, Sir Fflint, Merthyr, Castell Nedd Port Talbot Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Wrecsam. Mae'r ymgeiswyr annibynnol ar y blaen yng Nghaerfyrddin, Powys, Sir Ddinbych, Sir Benfro ac Ynys Môn. Plaid Cymru sydd a'r nifer fwyaf o ymgeiswyr yng Ngwynedd a Cheredigion ac Mae'r Torïaid ar y blaen yn Abertawe, Bro Morgannwg, Sir Fynwy a Chonwy. Yng Nghaerdydd mae'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ymladd pob sedd. Mae Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gydradd yng Nghasnewydd.
SylwadauAnfon sylw
O le mai cael gwybod pwy sy'n sefyll ble ? Oes rhaid mynd trwy wefannau pob cyngor?
Er Gwybodaeth, mae Ymgeiswyr a Chynghorwyr Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin wedi lansio gwefan - .
Mae gan Blaid Cymru 60 ymgeisydd yn Sir Gâr eleni, y mwyaf erioed o'r hyn ddeallaf.
Diolch Vaughan - Anoracia yn wir - wrth fy modd!!!