Wps!
Mae cytundebau bach ar y slei rhwng pleidiau’n gallu bod yn bethau defnyddiol ond maen nhw'n bethau peryg hefyd! Yn enwedig mewn etholiadau lleol dyw e hi ddim yn anarferol i bleidiau neu grwpiau gyrraedd cytundebau ynglŷn â phwy sy'n sefyll yn ble neu ba wardiau sy'n cael eu targedi gan bwy ond mae angen gofal wrth wneud hynny. Gall cynllun clyfar droi'n llanast yn ddigon hawdd.
Mae'n amlwg bod rhywbeth o'r fath wedi digwydd yng Nghastell Nedd Port Talbot lle mae Llafur yn amddiffyn mwyafrif bregus. Yn yr ardal honno does ond angen cael cipolwg ar yri synhwyro bod Plaid Cymru, y Trethdalwyr ,rhai ymgeiswyr annibynnol a'r SDP (ydyn, maen nhw dal i fynd ym Mhort Talbot) wedi cydlynu eu hymdrechion.
Eisoes mae'r cynllun yn cwympo'n ddarnau. Yng nghadarnle'r Trethdalwyr, Baglan, ymunodd dau o ymgeiswyr y garfan honno a'r Blaid Lafur ar y slei gan newid y disgrifiad ar eu papurau enwebu ar y funud olaf. Y canlyniad- dwy sedd ddiwrthwynebiad i Lafur mewn ward a ddylai fod yn ddiogel i'r gwrthbleidiau.
Mae Llafur wrth eu boddau, wrth reswm ac yn lled awgrymu y gallai aelodau eraill o'r gwrthbleidiau groesi'r llawr ar ôl yr etholiad. Mae Llafur yn fwyfwy hyderus ynglŷn â chanlyniadau Mai'r 1af yn y rhan yma o Gymru. Yn ôl Llafur mae methiant Plaid Cymru i enwebu ymgeiswyr mewn wardiau fel Brynaman Isaf a Chwmllynfell yn arwydd o'r ffordd y mae'r gwynt yn chwythu.
SylwadauAnfon sylw
Dyna'r math o dric brwnt sy'n dwyn anfri ar wleidyddiaeth leol, yn fy marn i. Mae'n rhwystro'r etholwyr rhag cael yr hawl i ddewis pwy fydd yn eu cynrychioli. Rhag eu cywilydd - y cynghorwyr eu hunain a'u plaid newydd!