Ar ôl y toriad
Ydy, mae'r etholiad i ddewis arweinydd newydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn tynnu at ei derfyn. 62% o'r aelodau oedd wedi pleidleisio erbyn ddoe. Tra bod hynny'n ganran uchel o gymharu ac etholiadau undeb ayb byswn i wedi disgwyl gwell ymateb. Wedi'r cyfan rhyw ddwy fil a hanner o aelodau sydd gan y blaid ac mae cyfran helaeth o'r aelodaeth hynny'n weithgar. Mae'n bosib wrth gwrs y bydd y canran wedi cynyddu'n sylweddol cyn i'r bleidlais gau ddydd Llun. Mae 'na duedd mewn etholiadau trwy'r post i bobol bleidleisio yn syth ar ôl derbyn y papur neu ar y funud olaf. Gyda llaw, dw i newydd sylwi bod y blaid wedi dewis yr enw "Freedom Central" ar gyfer ei phencadlys newydd yn y bae. Wel, mae'n fwy gwreiddiol na "Tŷ Gwynfor" rownd y gornel!
Dyw'r ³ÉÈËÂÛ̳ ddim yn derbyn hysbysebion ond dw i am wneud eithriad! Mae nhw'n disgwyl eich galwadau nawr!.
SylwadauAnfon sylw
"Rhyddid Canolog" yw'r cyfieithiad. Truly inspirational.
Ond ydych wedi sylwi enw Cymraeg pencadlys y Rhyddfrydwyr hefyd? Rhyddid Canolog neu "Centralised Freedom". Swn i wedi disgwyl i chi nodi y camgyfieithiad hynny yn eich post Mr Roderick.
Rhyddid Canolog?!
Gobeithio nad ydi'r Democratiaid Rhyddfrydol yn bwriadu cynnal eu parti Nadolig mewn bragdy!