³ÉÈËÂÛ̳

Help / Cymorth
« Blaenorol | Hafan | Nesaf »

Podlediad a phethau eraill...

Vaughan Roderick | 14:13, Dydd Gwener, 5 Rhagfyr 2008

Arwyn Jones, Gohebydd Addysg ³ÉÈËÂÛ̳ Cymru yw'r gwestai ar y podlediad yw wythnos hon. Mae trafod addysg (wrth reswm) a hefyd... Abergeirw!!!

Dyma ychydig o ddolenni i'ch difyrru.

Dwi'n dwli ar sy'n eich galluogi i wrando ar bron i bymtheg mil o orsafoedd radio o bedwar ban byd.

Ond dyw'r rhyngrwyd wedi dod yn bell!

A chwestiwn i orffen. Pam nad yw gwefan newyddion Golwg wedi ymddangos eto? Wedi'r cyfan mae'r Daily Post, ITV a Barn wedi llwyddo i lansio safleoedd newyddion Cymraeg heb fawr o drafferth. Plîs, plîs, dywedwch wrtha'i nad yw'r si bod cynllun y safle wedi ei seilio ar faes yr Eisteddfod yn wir. Cliciwch ar y Pafiliwn am y newyddion. Ewch i'r Babell Len am adolygiadau. Does bosib!

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 23:37 ar 5 Rhagfyr 2008, ysgrifennodd Albert:

    Cwestiwn da iawn am wefan Golwg - ond gobeithio na fydd 'na feiriadu ar y peth cyn hyd iddo ymddangos hyd yn oed.

    Rhaid i mi gyfadde', dwi'm yn cael gweld y cylchgrawn yn aml. Ond dwi'n gobeithio bydd lliw y cylchgrawn yn cael ei adlewyrchu ar y we. A falle bydd y buddsoddiad newydd yn help i wella'u safonnau newyddiadurol hefyd.

Mwy o’r blog hwn…

°ä²¹³Ù±ð²µ´Ç°ùï²¹³Ü

Dyma rhai o’r pynciau poblogaidd sydd dan sylw ar y blog hwn.

Cyfranwyr diweddaraf

³ÉÈËÂÛ̳ iD

Llywio drwy’r ³ÉÈËÂÛ̳

³ÉÈËÂÛ̳ © 2014 Nid yw'r ³ÉÈËÂÛ̳ yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.