Cynhaeaf Toreithiog
Mae'r banciau ar eu tinau, ffatrïoedd yn cau, methdaliadau'n cynyddu a swyddi'n diflannu. Ond oes 'na unrhyw un sydd ar ei ennill o'r llanast economaidd?
Oes, fel mae'n digwydd. Ffarmwrs. Yn ôl ffigyrau Llywodraeth y Cynulliad mae incwm ffermwyr mynydd Cymru i fyny 16%. Yn ffodus mae gan y ffermwyr hynny lle i gwyno o hyd! Mae'r ffermwyr llaeth wedi gwneud yn well na nhw gyda chynnydd o 22%.
Cerddwch mewn i fanc a gofynnwch am fenthyciad ac fe wnewch ganfod bod y coffrau ar gau. Ychwanegwch y ffaith eich bod yn ffermwyr ac fe mae hi fel bod yn ôl yn nyddiau mwyaf afradlon Northern Rock. Ar draws y sector mae 'na fuddsoddant helaeth i elwa o'r dyddiau da a moderneiddio'r diwydiant.
Beth yw'r esboniad? Efallai bod cael Cardi fel Gweinidog Amaeth yn help ond y cwymp yng ngwerth y bunt sy'n bennaf gyfrifol. Mae taliadau fferm sengl yn cael eu pennu yn Ewros. Gyda'r bunt yn wan mae hynny'n golygu o gwmpas deg y cant yn ychwanegol ar y siec grant. Dim ond dechrau'r newyddion da yw hynny.
Mae pris bwyd o dramor i fynnu a'n hallforion yn fwy cystadleuol. Mae allforion biff yr Iwerddon i Brydain, er enghraifft, wedi gostwng yn ddifrifol tra bod cig oen Cymru yn llifo i'r cyfandir.
Yn wyneb hyn oll oes 'na bosibilrwydd y bydd y Llywodraeth yn ailgyfeirio peth o'r cymorth cyhoeddus o'r ffermwyr i sectorau o'r economi sydd wynebu argyfwng?
Dim ffiars o beryg. Mae'r Gymru wledig yn rhy bwysig i Blaid Cymru. Gall ein hamaethwyr stwffio'u harian dan y fatres a chysgu'n braf!