Y 10 Uchaf - Bro Morgannwg
Dyma beth rhyfedd i chi. Fe ges i fy magu ar gyrion gogleddol Caerdydd. Roedd ein cartref yn yr un etholaeth a rhannau goludog tref Caerffili ac ambell i bentref ar gyrion Casnewydd. Pa etholaeth oedd honno? Caerffili? Gogledd Caerdydd? Casnewydd? Na, Na ac Na eto. Roeddwn yn byw yn hen etholaeth Y Barri, creadigaeth ryfedd a rhyfeddol y comisiwn ffiniau.
Roedd yr etholaeth honno'n cynnwys y rhan fwyaf o erwau ffrwythlon Bro Morgannwg a thref y Barri gyda chwt cul yn amgylchynu'r brifddinas ac yn cyrraedd y môr rhwng Caerdydd a Chasnewydd. Roedd y cwt hwnnw yn cynnwys rhai o gymunedau mwyaf cefnog Cymru. O ganlyniad, etholaeth Y Barri oedd cadarnle mwyaf y Ceidwadwyr Cymreig.
Yn anffodus i'r Torïaid yn 1974 collodd ei chwt a rhedodd i ffwrdd. Ar ôl naddu etholaeth oedd yn hynod ffafriol i'r Ceidwadwyr fe waneth y comisiwn ffafr a Lafur wrth bennu ffiniau etholaeth newydd Bro Morgannwg. Trwy hollti Penarth o weddill y Fro crëwyd sedd oedd yn hanner gwledig, yn hanner trefol ac yn hynod ymylol.
Enillodd Llafur y Fro am y tro cyntaf ers 1951 mewn isetholiad cofiadwy yn 1989 pan gurodd yr aelod seneddol presennol John Smith y Ceidwadwr lliwgar Rod Richards
Dyw gwasanaeth Mr Smith ddim wedi bod yn ddi-dor. Methodd Llafur gadw llygad ar y bel yn etholiad 1992 gan feddwl bod mwyafrif John o 6,028 yn ddigon i warantu buddugoliaeth. Mae'n ymddangos bod y Torïaid o'r un farn. Yn lle enwebu un o'r mawrion lleol dewiswyd Walter Sweeney, gwr heb unrhyw gysylltiad â Chymru. Mae Walter yn ddyn dymunol a gweithgar ond byddai neb yn honni ei fod yn gyllell arbennig a siarp. Roedd hi'n dipyn o sioc felly pan gurodd John Smith o drwch blewyn.
Gyda mwyafrif o 19 doedd dim gobaith i Walter wrthsefyll swnami Llafur 1997. Fe aeth yntau yn ôl i Swydd Efrog a John Smith yn ôl i San Steffan. Enillodd Llafur yr etholaeth yn weddol handi yn yr etholiadau dilynol ond erbyn 2005 roedd mwyafrif John Smith wedi dirywio i 1808. Aeth pethau o ddrwg i waith yn etholiad y cynulliad gyda Jane Hutt yn crafu mewn gyda mwyafrif o 83. Does dim dwywaith yn fy meddwl i y byddai hi wedi colli pe bai Alun Cairns wedi ymgeisio am y sedd.
Ond nid ar y sedd cynulliad mae llygaid Alun ond ar y sedd seneddol. Mae'n debyg o'i hennill hefyd os nad oes 'na newid sylfaenol yr hinsawdd wleidyddol. Mae gan John Smith bleidlais bersonol gref oherwydd ei waith caled i sicrhâi datblygiad y ganolfan hyfforddi filwrol yn Sain Tathan ond go brin y bydd hynny'n ddigon i wrthsefyll ton Geidwadol. Os ydy David Cameron yn Brif Weinidog mae'n werth betio y bydd Alun Cairns yn eistedd ar y meinciau y tu ôl iddo fe.
Mae 'na un peth bach arall gwerth nodi am Fro Morgannwg. Am ddegawdau roedd arfordir y De-ddwyrain yn dir creigiog ac anffrwythlon i Blaid Cymru. Bro Morgannwg oedd yr eithriad. Yn Ninas Powys i ddechrau ac yna yn rhai o wardiau'r Barri adeiladwyd sylfaen gadarn mewn llywodraeth leol. Mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn etholiadau'r cynulliad. Yn 2007 derbyniodd ymgeisydd Plaid Cymru bron i bum mil o bleidleisiau. Does 'na ddim arwydd hyd yma bod y patrwm hwnnw yn ymestyn i etholiadau seneddol. Gyda'r ornest rhwng y ddwy blaid fawr yn un agos a ffyrnig y tro nesaf mae'n debyg y bydd y wasgfa ar Blaid Cymru mewn etholiadu seneddol yn parhau.
SylwadauAnfon sylw
Ces i'n magu yn Ninas Powys, ac yn cofio, pan oedd nifer o'r plant yn whare 'Prydain vs yr Almaen', ro'n i i gyd yn whare 'Plaid vs y Maggi Men'. (Dychmygol oedd y Maggi Men gyda llaw - doedd neb byth yn fodlon fod ar eu hochr nhw!) Dyddiau rhyfedd oedd diwedd y 70au, ond'ife?
Un cwestiwn. Faint sydd ym mhen Alun Cairns? Wel, ac un cwestiwn arall 'ta, tra dwi wrthi, pam y crysau yna?!